ffordd i Northampton, troais at Balas mawr, a daeth y gwr boneddig i'm cyfarfod yn ymyl y Palas. Dywedais fy nghwyn wrtho, gofynodd yntau o ba le yr oeddwn yn dyfod, dywedais inau mai Cymro o Lanrwst, Sir Ddinbych, oeddwn. Yna gofynodd a adwaenwn i rai o foneddwyr Sir Ddinbych . "Ad waen Syr, yr ydwyf yn adnabod Syr Watkin Williams Wynn," ebe finau. Yn mha le y mae efe yn byw? " " Yn Wynnstay, wrth Rhuabon," ebe finau. "Ie, yr ydych yn dweud y gwir," ebe yntau . Aeth i'w bwrs ac estynodd haner coron i mi. Yr oeddwn wedi clywed fod cefnder i mi yn byw yn Northampton, a phan gyraeddais yno, holais am dano gyda gwas gwr boneddig oedd yn fy adnabod yno. Deuais o hyd i'r shop lle yr ydoedd yn aros, a gofynais a oedd yno un Mr Williams? A daeth dyn pur debyg i mi yn ei wynebpryd i'r drws, a dywedodd fod yno un o'r enw hwnw — mai Williams oedd ei enw ef ei hun. "Wel, Syr, cefnder i chwi ydwyf fi," ebe finau, — yr oedd fy nhad i a'ch tad chwi yn ddau frawd; a throais heibio i chwi i edrych ani danoch wrth fyned adref i Gymru." "O , ai ê — A ydych chwi yn fab i f’ewyrthr Thomas, Llanrwst?" meddai wrthyf. "Ydwyf, Syr," ebe finau. Derbyniodd fi yn groesawus iawn, chwiliodd am lety cysurus i mi i fwrw y Sabbath. Er ei fod mewn sefyllfa uchel, daeth gyda mi i brif dafarndai y dref, ac arddelai fi yn gefnder iddo yn ngwydd pawb o'i gydnabod. Ac wrth ymadael rhoddodd i mi bâr o hosanau a het, ac un swllt ar ddeg o arian . Daethum i Coventry, a thrwy Sir Amwythig adref i Lanrwst.
Ar ol dyfod adref aethum i aros i Plasmadog, a byddwn yn myned i'r dref i negeseua dros fy meistr,