Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un diwrnod ymdroais yn y tafarndai i yfed. Ac fel yr oeddwn yn cyd yfed gydag ereill mewn un dŷ tafarn, cynygiodd un o'r cwmpeini sovereign i oferddyn a elwid Ifan y Gof, os aethai allan drwy y dref yn noeth; ond nacaodd hwnw fyned .

A chynygiodd yr un gwr ddau swllt i minau os awn, dywed ais wrtho yr awn; a rhedais o heol y Bont Fawr oddiamgylch yr Hall yn nghanol y dref yn noeth lymun; a dychrynodd rhyw wraig feichiog wrth fy ngweled, nes yr aeth yn sal. Gyda'r nos yr un dydd, wedi myned yn ychydig meddwach, rhedais yr un modd o ben isaf y dref, at y Bont Fawr, am swllt; a rhedodd Mr. Lewis Thomas, Druggist, ar fy ol gyda chwip y tro hwn, gan feddwl fy nghuro, a fy nhroi i fewn i rhywle, cyn dangos ychwaneg o'm digwilydd-dra ; ond meihodd a fy nghyraedd. Yr wythnos ganlynol aethum i ddanfon fy meistr i Gerig y Druidion; ac wrth ddyfod yn ol gyda' ceffyl, troais i dafarndy oedd ar y ffordd, a meddwais yn drwm a syrthiais oddiar ei gefn lawer gwaith cyn cyraedd y dref: aeth rhywun arall a'r ceffyl adref o'r dref, oblegid yr oeddwn i yn rhy feddw i allu symud.

Ymadawais o'r Plasmadog, ac aethum gyda gyr o wartheg o Sir Fon i'r Eglwys wen, yn Sir Amwythig. Ac with ddyfod yn fy ol adref, dechreu ais yfed a meddwi yu Nghaerlleon, a tharewais wrth ddynes ddrwg, a chysgais allan yn fy meddw. dod. Pan sobrais yn y bore canlynol, cefais fy hun yn gorwedd yn mhlith pentwr o gerig yn nghwr Heol у Bont, wedi fy yspeilio o hyny o arian oedd genyf. Y noson ganlynol aethum i dafarndy bach afreolus, a meddwais yno, a darfu rhyw ddyhirod baentio fy ngwyneb a'm dillad â phaent coch a