Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gymru (y Parch E. Evans, neu Ieuan Glan Geironydd,) i erfyn arno ar fy ngliniau am iddo roddi ychydig o bres neu ryw elusen arall i mi.

Dywenodd yntau, a rhoddodd ychydig o fara i mi; (o herwydd ni chredai nad yn dweyd celwydd oeddwn yn nghylch fy mraich, er mwyn cael arian i'w rhoddi am ddiodydd. Daethum yn mlaen i Dreffynon, dan fegio yo mhob man, a byddwn yn cael llawer hefyd, trwy ddangos fod fy mraich o'i lle—nas gallwn weithio, &c. Pan oeddwn yn un o dafarndai Treffynon cynygiodd Dr. Bevan roddi fy mraich yn ei lle am ddeunaw ceiniog, ac yr oedd genyf finau gymaint a hyny o bres hefyd; ond gwrthodais ei gynygiad er mwyn cael chwaneg o ddiodydd. Daethum yn mlaen mewn gofid mawr drwy Lanelwy a Llanfair i Lanrwst. Can gynted ay y cyraeddais adref, aethum at yr Offeiriad, yr hwn oedd hefyd yn Ustus Heddwch, i ofyn am gymorth o'r Plwyf tuag at fyw, ac i roddi fy mraich yn ei lle. Gorchymynodd yntau i'r Plwyf wneud fy nghais, a rhoddodd chwe' cheiniog yn fy llaw: a gweriais inau ef am ddiodydd meddwol, a meddwais y diwrnod hwnw hefyd. Rhoddodd meddygon y dref fy mraich yn ei lle dranoeth, heb unrhyw ystyriaeth arianol.

Wedi bod gartref am yspaid o amser yn gwneud mân swyddau hyd y dref, aethum gyda gyr o foch i'r Amwythig. Pan dderbyniais fy nghyflog, aethum i'r tafarndai gyda rhai o yriedyddion y dref ag oeddyn fy adnabod, a meddwais yno. Ac wrth y Welsh Bridge cyfarfyddais â dynes ddrwg, yr hon a'm hudodd gyda hi. A gwelodd yn mha le yr oeddwn yn cadw fy arian, ac yspeiliodd fi o'r cwbl , —yr oeddwn yn rhy feddw i'w rhwystro. Wrth