Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A thranoeth deuais o hyd iddi ar y ffordd at Langollen . Ar ol siarad ychydig am bethau amgylchiadol, dywedodd mai gwraig weddw dlawd o Wyddeles oedd hi. Dywedais inau mai gwr gweddw tlawd o Gymro oeddwn inau—ein bod yn ddau gymhariaid cymwysiawn i fyw gyda'n gilydd. Nid oedd yn hollol foddlawn i fy nghanlyn, rhag ofn fod yno rywun yn ein hadnabod; ond addawodd wneud fy nghais pan elun yn mhellach yn mlaen. Telais am ei llety y noswaith hono; ac aethum i lety arall oddiwrthi. "Bore dranoeth cychwynasom ein dau tuag at Groesoswallt, gan fegio arian a bwydydd hyd y wlad. Ac yn y Waen (Chirk,) pentref bychan oedd ar y ffordd, troisom i mewn i dŷ tafarn, a chydyfasomi yno yn hir, a rhoddais fy arian i gyd iddi i'w cadw. Aethum yn mlaen i Groesoswallt, lle y cawsom lety yn ddidrafferth, ac nid oedd neb yn ameu nad gwr a gwraig oeddym. Aethom oddi yno i Aberystwyth: ac yr oeddwn wedi hel oddeutu pymtheg swllt o arian a bwyd ar hyd y ffordd, a rhoddi y cwbl iddi i'w cadw. Pan oeddwn allan yn begio hyd y Gymydogaeth, diangodd o'r tŷ llety oedd genym, ac aeth i'r tafarndai wario fy arian i gyd am ddiodydd. Bum ddeuddydd neu dri hyd y dref yn methu cael hyd iddi; ond o'r diwedd cefais wybod lle yr ydoedd yn lletya, ac aethum yno ati, a chefais hinn llechu tu draw i'r gwely. Tynais hi i'r llawr a dechreuais ei churo a rhwygo ei dillad yn fy ngwylltineb, rhedodd hithau allan o fy nwylaw, pan y gallodd , ac aeth i'r tŷ yr oeddym yn aros ar y cyntaf. Meddyliodd gwragedd y tai nesaf mai fy ngwraig oedd, a rhwystrasant fi i fyned i'r tŷ ati, rhag i mi ei niweidio. Gadawais hi yno, ac ni welais hi byth mwyach.