Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aethum o Aberystwyth drosodd i Aberdyfi, ac oddiyno i'r Tywyn Meirionydd; ac yn mlaen i bentref o'r enw Llwyngwril, lle y byddai Nannau Wynn, Ysw ., Llanrwst, yn arfer myned i hela bob blwyddyn. Nid oedd genyf ddim arian i dalu am lety y noswaith hono. Yr oedd yno westy, neu dŷ tafarn pur fawr, lle yr arferai y boneddwr hwnw ddisgyn; a dywedais wrth wraig y tŷ hwn mai gwas i Mr. Nannau oeddwn — fy mod wedi dyfod yno i ddanfon y cŵn hela, a fy mod wedi eu gadael yn Abermaw—eu bod wedi blino gormod i gyraedd Llwyngwril y noswaith hono. Credodd y wraig da fy mod yn dweyd y gwir; rhoddodd swper a diodydd a lle i gysgu i mi. Cefais foreufwyd hefyd dranoeth gan foneddwr oedd yn byw yn ymyl y gwesty hwn, ac yn gyfaill mawr i Mr. Nannau; gofynais iddo am fenthyg swlli nes deuai fy Meistr yno; rhoddodd yn ddigon rhwydd. Yna diengais at Abermaw can gynted ag y gallwn.

Aethum o'r Abermaw ar draws y wlad i Wrexham, a chefais afael ar hen ferch led ffol yn y tŷ yr oeddwn yn lletya yno, yr hon a amododd i ddyfod i fy nghanlyn fel gwraig i mi. Aethom o Wrexham i Sir Drefaldwyn, dan fegio ein dau hyd y wlad tuag thay at fyw. Cawsom waith i godi pytatws yn Llanidloes;— yr oedd hi yn cael deg ceiniog, a minau swllt yn y dydd am oddeutu wythnos o amser. Daethum o'r Deheudir trwy Machynlleth, Dolgellau a Harlech, ac i Gaerynarfon, a throsodd i Sir Fon. Troisom i dŷ tafarn yn y Gaerwen, yn ymyl Llangefni, a meddwais i y noswaith y daethom yno. Bum yno ar fy nherm am dri neu bedwar diwrnod, nes gweriais yr holl arian oeddym wedi gasglu i feddwl priodi. Daethom o Sir Fon i Fangor, a