Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daethum adref yn fy ol ac aethum i ffair Llanbedr i ddanfon dau fystach dros un o gigyddion Llanrwst, a meddwais yno yn gynar ar y diwrnod. Dygwyddais fyned i ardd oedd tu cefn i dŷ tafarn yno, lle yr ydoedd Stewardiaid Gwydyr, a mân foneddigion eraill o Lanrwst yn cydyfed cwrw. Gwaeddasant arnaf a dywedasant y cawn chwart o gwrw os gorweddwn ar lawr, ac iddynt hwythau gael ei dywallt i fy safn. Caniateais inau iddynt wneuthur felly, a mi gorweddais ar wastad fy nghefn ar lawr, a chymer dasant y chwart cwrw a chodasant ef i fynu, a thywalltasant y cwbl, yn nghyd a llawer ychwaneg , i lawr i fy ngwddf, fel i bwll o ddwfr. Ond cyn iddynt gael yr hyn a ddymunent o sport gyda mi, cododd rhyw ffarmwr fi i fynu ar fy nhraed, a symudodd fi ymaith. Cychwynais at Lanrwst yn yr hwyr yn feddw iawn, a syrthiais wrth bont Dolgarog, a chysgais yno hyd y bore.

Ar ol hyn aethum i ffair Porth Aethwy, a chefais waith yno i ddanfon bustachiad i Sarnfollteyrn, dros rhyw borthmon o Leyn; a chefais bum swllt o gyflog ganddo. Aethum yn mlaen i Bwllheli, a dechreuais wario yr arian a dderbyniais y dydd o'r blaen, a meddwais yn arswydus, a chefais gysgu am noswaith neu ddwy yn y tŷ tafarn lle yr oeddwn. Ond pan ddarfyddodd fy arian, dywedodd gwraig y tŷ fod rhyw werthwr tea wedi dyfod yno—nad vel oedd ganddi ddim lle i mi i gysgu mwyach. Pa fodd bynag, trwy ei bod yn llawer o'r nos, a minau yn feddw , dywedodd y gallwn gael myned i lofft yr ystabl. Nid oedd genyi ddim i'w wneud ond myned yno. A phan oeddwn yn myned allan drwy ddrws y cefn at yr ystabl, gwelais ddau bot a llechi . ar eu gwynebau mewn rhyw gornel yn y cefn. Ar