Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ol cysgu yn y gwair am rai orian, daeth syched mawr arnaf, a deffroais, ac ni wyddwn beth i'w wneud i dori fy syched. Ond o'r diwedd cofiais i mi weled rhyw botiau yn y cefn wrth ddyfod yno. Codais ac aethum allan i chwilio am danynt, gan ddysgwyl fod dwfr ynddynt. Deuais o hyd iddynt; ac yr oedd cwpan ar lawr yn eu hymyl, a chodais gwpanaid i'w yfed ar frys; ac wrth ei archwaethu yn egr a sharp, meddyliais mai diod fain ydoedd, a chymerais lwnc pur fawr o hono. Ond cyn pen haner munud daeth cyfog mawr arnaf. Ac erbyn edrych yn fanwl, deallais mai golch sur ydoedd! Daethum yn ol i Lanrwst drachefn, lle yr arosais am yspaid o amser.

Un diwrnod pan oeddwn yn feddw iawn, cyfarfyddais â dynes ddrwg ar y dref, ac ymddygais yn bur warthus gyda hi ganol dydd goleu; ac yr oedd tyrfa fawr o blant, ac eraill, oedd yn dygwydd myned heibio ar y pryd, yn gylch o'm deutu yn edrych arnaf. Cymerodd Mr. Williams, yr Exciseman chwip a chwipiodd ni, nes ein gwahanu oddiwrth ein gilydd. Prin yr wyf yn cofio yr amgylchiad gwarthus hwn, oblegid yr oeddwn mor feddw fel, na wyddwn pa beth oeddwn yn ei wneuthur; ond yr oedd yno ddigon o edrychwyr sobr yn fy ngweled allant dystio yn fy ngwyneb heddyw er cywilydd i mi. Ond rhaid addef pe buasai dynion moesgar y dref yn fy ngweled y buasent yn fy fllangellu yn dost.

Oddeutu yr adeg hon (18 mlynedd yn ol,) daeth y Gymdeithas Gymedroldeb i fri pur fawr; ond dirywiodd cyn pen hir, a diflanodd yn llwyr, oherwydd fod ei haelodau yn methu cyduno yn nghylch y terfyn a farnent oedd rhwng cymedroldeb a gormodedd. Sefydlwyd y Gymdeithas Ddirwestol, a