Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chynyddodd y Gymdeithas hon yn gyflym iawn, nes y daeth llwyrymwrthod yn beth pur gyffredin trwy bob parth o Gymru. Parheais i i yfed a meddwi, nes oeddwn wedi myned yn wir druenus yn mhob modd. A phan oedwn yn bur sal un diwrnod ar ol hir derm, ystyriais ychydig, ac ofnais fod y diodydd meddwol yn fy lladd yn brysur. Aethum at Mr. Griffith Williams, ysgrifenydd y Gymdeithas Ddirwestol, a dywedais wrtho fy mod am roi fy enw yn Ddirwestwr. "A ydych yn medd wl y medrwch chwi ddal am ychydig, Thomas bach?" meddai hwnw wrthyf yn bur dyner. Ydwyf, yn wir," ebe finau. "Y mae arnaf ofn na fedrwch rhoddaf eich enw yn y llyfr bach am fis i ddechreu," meddal yntau. Ac felly y bu. Dywedais wrtho mai y dydd canlynol yr oeddwn am ddechreu llwyr ymwrthod o ddifrif - fy mod am orphen y diwrnod hwnw, (sef y diwrnod yr oeddwn yn siarad ag ef,) drwy yfed cymaint a gaffwn o ffarwel i'r hen ddiod ydd am byth. Cefais haner dwsin o gerddi, ac aethum gyda hwynt i Drefriw, i'w gwerthu. Troais i'r tafarndai yn Nhrefriw , a chefais gryn lawer o gwrw yno. Aethum i lawr cyn y nos at Dolgarog, a chefais wydraid neu ddau yno. Aethum yn mlaen i'r Royal Oak, ac oddi yno i'r Bedol, lle y cymerais yr haner pint olaf. Aethum yn mlaen oddiyno oddeutu 8 o'r gloch y nos at y Farchwel. A phan oeddwn yn myned at y tŷ hyd ffordd gul, syrthiais heb fod dim neillduol yn achosi hyny, yr oeddwn yn ddigon sobr i gerdded yn rhwydd dirwystr. A bum yn meddwl lawer gwaith ar ol hyny mai yr ysbryd drwg oedd yn fy ngwthio ac yn fy nhaflu i lawr o ffarwel i mi. Pan aethum at ddrws y tŷ, daeth y wraig allan, a gofynais am le i