Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gysgu y noson hono. Dywedodd hithau nad oedd yno ddim lle yn y tŷ—y cawn i ddillad gwely i fyned i'r ysgubor os mynwn. Dywedais inau y bydd ai yn dda i mi gael hyny; a daeth y gwas gyda mi i'r ysgubor i wneud gwely i mi yn y gwair. A phan aeth y gwas allan, plygais ar fy ngliniau, a gweddiais ar i'r Arglwydd fy sobri, a fy nerthu i ddal yn ddirwestwr o hyny allan, yn nghyd a fy nghadw rhag pob drwg. Erfyniais yr un peth hefyd wrth godi bore dranoeth, ac aethum i'r tŷ, a dywedais wrth y wraig fy mod yn ddirwestwr, ac yn meddwl parhau felly hefyd. "Taw Twm bach," ebe hitbau, - " pe buasai genyf gwrw i'w gynyg i ti y funud hion, buasit yn ei yfed yn bur llyfn, yr wyf yn sicr." "Na, yn wir, coeliwch ti, yr wyf yn neddwl, yn bresenol, na chymeraf ddafn byth eto," ebe finau. Ar ol cael boreufwyd ganddi, aethum i Lanbedr, a throais i dafarndy yno i fegio, a chynygiodd gwraig y tŷ haner pint o gwrw i mi, yr hwn a wrthodais, a chefais geiniog ganddi. Aethum oddiyno i Gonwy, gan fegio pres hyd y tai. Pan gyraedd. ais Gonwy, aethum i bob tafarndy adnabyddus i mi i fegio arian a bwyd, a gwrthodais ddiodydd meddwol yn mhob un o honynt. Aethum o Gonwy i Abergele; ac ar у ffordd yno, wrth dŷ tafarn o'r enw Tan’r ogof, yr oedd porthmon moch adnabyddus i mi, wrth ddrws y tŷ yn prynu moch. Talodd am haner peint o gwrw i mi, a phan oedd efe yn ei estyn ataf, gwrthodais ei gymeryd. "Beth, a ydych chwi yn ddirwestwr?" meddai, yn ddirmygus, "Ydwyf, yn wir, Syr," ebwn inau. "Wel, os nad yfwch ef, mi a'i thaflaf am eich pen," ebe yntau. Gwrthodais ei gymeryd er y cwbl; taflodd yntau ef am fy mhen yn ei wylltineb.