Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aethum yn mlaen i ffair Abergele, a throais i Werthu Almanac i dŷ tafarn lle yr ydoedd amryw yn yfed wrth y tân. A phan welsant fi yn dyfod atynt, ac yn gwybod fy mod yn ddirwestwr, daeth un o honynt o'r tu ol i mi ac ymaflodd am fy nghanol a gwasgodd fy mreichiau, a chymerodd un arall haner peint o gwrw, gan feddwl ei dywallt i fy ngenau, er fy ngwaethaf; gwasgais inau fy nannedd mor dŷn ag y gedrwn, nes y methasant yn eu hamcan. Aethum oddiyno i Lansantsior, ac yr oedd darllawydd Cimel gyda'r drol yn dyfod I'm cyfarfod oddiwrth y palas at y ffordd, a jar o gwrw yn ei law. A phan welodd fi, dywedodd, "Tyred yma, yr hen Gapelilo anwyl, gael i ti gegiad o'r cwrw yma i dy gynsu;" (oblegid yr ydoedd yn bwrw eira.) "Na chymeraf yn wir, diolch i chwi," meddwn inau. "Beth sydd arnat ti-a wyt ti yn Ddirwestwr dywed ?" meddai yntau . "Ydwyf," meddwn inau, "Wel dal ati hi ynte, machgen i, "meddai yntau. Ac fel yna, byddai rhai yn fy nghalonogi yn fawr, er fod ereill yn ddirmygus iawn o honwyf. Daethum yn mlaen i Ddinbych, a throais i dị Mr. Thomas Williams, tad y Parch . W. Williams, (Caledfryn,) yn Heol Henllan, yr hwn oedd yn wreiddiol o Lanrwst; gofynodd o ba le y daethwn ar y fath dywydd mawr. Dywedais inau mai o Abergele, a fy mod yn ddirwestwr er ys rhai misoedd bellach. Ac yr oedd yn dda iawn ganddo glywed fy mod yn ddirwestwr, parodd i mi eistedd i lawr i gael bwyd. Fel hyn yr oeddwn yn cael cymaint o bres a bwyd am fod yn ddirwestwr, ag oeddwn yn ei gael o'r blaen o ddiodydd am wneud campiau drwg.

Daethum drosodd o Ddinbych i Lanrwst, a