Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

thranoeth yr oedd Cyfarfod Dirwestol yn Nghapel y Trefnyddion Calfinaidd. Erfyniodd llywydd y cyfarfod arnaf ddweyd ychydig am ddirwest ac am danaf fy hun. Dywedais inau fy mod yn caru y drefn o lwyrymwrthod yn fawr iawn, gan ddangos y lles oedd wedi ei wneud i mi eisoes; ac adroddais iddynt hefyd fy hanes pan oeddwn yn feddw yn Llanbedr - fel y goddefais dywallt cwrw i fy mol - nad oedd waeth genyf pa fodd y rhoddid ef i mi, am y cawn ef i fy mol rywsut.

Cefais fy nghoelio am ganto lyfrau dwy geiniog yr un, ac aethum hyd y wlad i'w gwerthu; a gwrth odais gymeryd diodydd meddwol am danynt lawer gwaith . Gwerthais y cwbl mewn oddeutu wythnos; yna deuais yn ol i Lanrwst a'r arian i gyd yn fy mhoced, a thelais am danynt i'r Llyfrwerthwr, yr hwn oedd yn rhyfeddu fy mod heb eu gwario a meddwi, a dianc rhag eu talu fel y byddwn arferol o wneud pan yn feddwyn. A rhoddodd ychwaneg o lyfrau i'mi,ac aethum gyda hwynt hyd y gym ydogaeth, ac i'r ffeiriau.

Dechreuais edrych ar fy nghyflwr fel pechadur, ac ymofidio oherwydd fy mhechodau, ac aethum i'r Ysgol Sul i geisio dysgu darllen; a thrwy lawer o boen dysgais yr A, B, ac ychydig o sillebau. Erbyn heddyw yr ydwyf yn medru darllen fy Meibl yn lled rwydd, (ni byddaf yn ceisio darllen un llyfr arall;) ond nid wyf yn gailu deall meddwl neu ystyr pob adnod a ddygwyddwyf ddarllen. Yr oeddwn yn dyfod yn fwy ystyriol o hyd, a byddwn yn gweddio yn aml ar i'r Arglwydd fy ngalluogi i fyw yn dduwiol; a byddwn yn cael nerth i fasnachu yn onest, ac i ymatal oddiwrth: bechodau cyhoeddus ac ysgeler.