Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wedi bod allan am beth amser gyda llyfrau a gefais ar goel, deuais yn ol a thelais am danynt; ac yr oeddwn wedi casglu ychydig o arian erbyn hyn, yn nghyd a thair suit o ddillad. Ac ar ol bod yn teithio fel hyn gyda llyfrau am oddeutu tair blynedd, ymunais â chrefydd, gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn Llanrwst. Dywedais wrthynt wrth fy nerbyn fy mod yn ofni nad oedd byw yn ddirwestwr sobr a zelog ddim yn ddigon—fy mod am ymdrechu byw fel Cristion o hyny allan? A derbyniasant fi mewn syndod a llawenydd. Yn mhen oddeutu pedwar mis derbyniwyd fi i'r eglwys yn gyflawn aelod, pryd y cynghorwyd fi i beidio rhoddi lle i ddiafol—peidio chwareu gyda themtasiynau trwy fyned i'r tafarndai i werthu llyfrau, a pheidio gwrando ar neb fyddo ya fy ngwawdio am fod yn grefyddwr. Yr oedd pawb oedd yn y capel yn rhyfeddu fy ngweled yno.

Pan oeddwn ar daith gyda llyfrau yn Mangor, tarewais ar wraig weddw lled daclus o Sir Fon, yr hon oedd wedi dyfod yno i edrych am ei merch .

Ac yn mhen chwech wythnos priodais hi yn Nghaergybi, a daethom i fyw i Fangor. Yr oedd hi yn ddynes bach dwt iawn, —dywedid iddi fyned at y Wesleyaid er mwyn fy nghael i yn wr. Wedi cyd fyw gyda'n gilydd am oddeutu pum’mis neu haner blwyddyn, daethum i drosodd i Lanrwst i dalu am, ac i geisio chwaneg o lyfrau, gan adael yr arian oeddwn wedi eu casglu gyda hi gartref. Ond erbyn i mi fyned yno yn fy ol, yr oedd hi wedi diengyd at ei pherthynasau i Gaernarfon gyda holl ddodrefn y ty, ac un bunt ar ddeg o arian oeddwn wedi gasglu iddi. Synais weled fy nhy yn wag fel hyn , ac wrth edrych ychydig o’m deutu