Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

na chawn i ddim lle gyda hi, am i mi abusio Beti Morys. Deallais oddiwrth hyny fod Beti yn y dref yn rhywle, a chwiliais am dani yn ddyfal ; ond methais a'i gweled, a throais adref at Fangor. Ac wrth Bont y Borth ,gwelais Lord Newborough, ac üethuni ato i'w gyfarch, a gofynodd yn mha le yr oeddwn wedi bod, dywedais inau mai yn Nghaergybi yn chwilio am fy ngwraig, yr hon oedd wedi fy ngadael y dyddiau o'r blaen, gan gymeryd fy arian a phob peth hefo hi'ymaith, pan oeddwn i oddi cartref. A dyma y llythyr ysgar a adawodd ar ei hol yn y tŷ, my Lord, os byddwch gystal ag edrych arno. Darllenodd yntau ef a dywedodd. "Yn wir, mae'n ddrwg genyf drosoch: — rhaid i mi fyned yn mlaen yn bresenol." “"Wel, gyda'ch cenad , my Lord, beth a wnaf iddi hi nid oes genyf ddim arian—mae hi wedicymeryd y cwbl gyda bi? " meddwn inau. "Fe allai y daw hi atoch yn ei hol." meddai yntau; ac aeth i'w bwrs , a rhoddodd bumswllt i mi. Yna aethum i Fangor, ac ymgynghorais â blaenoriaid y capel, y rhai â'm perswadiasant i adael iddi, a pheidio ymhel a hi byth mwy.

Troais allan i werthu llyfrau, ac enillais naw punt mewn ychydig o fisoedd. Aethum ar fy nhaith fel hyn i Gaergybi; a phan oeddwn wrth y dref, cyfarfyddais â rhyw ddyn oedd yn dygwydd adnabod Beti Morys, yr hwn a ddywedodd lle yr oedd hi yn byw, a dangosodd i mi y tŷ. Rhoddais fy mox llyfrau mewn tý oedd gerllaw, ac aeth um ati, a chefais hi yn byw mewn llofft. Aethum i fynu y grisiau, a gwaeddodd hithau , "Pwy sydd yna?" Dringais inau yn nes ati, a dywedais, "Hollo, Beti, ai ti sydd yma yn uu frenines?"

.