Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Thomas Williams bach," meddai hithau, "sut yr ydych chwi? ac o ba le y daethoch?—A welsoch chwi rhyw eneth bach yn cynyg llefrith wrth y drws yna?" "Na welais - pa fodd y gwelswn i beth felly yr amser yma ar y nos?" meddwn inau . "Aroswch yma tra byddwyf yn edrych am dani," meddai hithau. Ond e neges oedd myned i ofyn

i'r Cwnstabl a ddeuai i droi rhyw ddyn allan o'i . thy." Gofynodd hwnw pwy oeddwn, a dywedodd hithau mai math o wr iddi oeddwn. Dywedodd yntau nas gallai droi un felly allan, a nacaodd ddyfod. Wedi ei dysgwyl i'r ty am beth amser, aethum allan i edrych lle y gallai fod cyhyd, a gwelwn hi yn dyfod i lawr yr heol gyda hen wr oedd yn myned i'r society i gapel y Wesleyaid. Ac archedd Beti ar hwn ddyfod gyda ni i fynu i'r llofft. Wedi eistedd ac ymddiddan am beth amser, dywedodd yr hen wr ei bod yn bryd myned i'r capel. A phan oeddynt hwy yn cychwyn i'r capel, a minau yn myned allan i geisio fy mox, bu ychydig o ffrwgwd rhyngom yn nghylch agoriad y llofti - mynai hi gloi y drws a chymeryd yr agoriad gyda hi,-a mynwn inau ei gael, a threchais hi. Deuais i i'r tŷ yn ol, ac edrychais beth oedd ganddi yn ei dillad a'i chelloedd, gan ddysgwyl fod yno ychydig o fy arian heb eu gwario. Ar ol ei dysgwyl i'r tŷ am beth amser, aethum i'm gwely , ac ni welais hi y noswaith hono—aeth i ryw dy arall. Ond dranoeth daeth yno, a phan oedd hi ar y grisian, gwaeddudd Hollol- pwy yw y bobl ddyeithr sydd yn fy nhŷ i?" Pan ddaeth yn mlaen alaf gofynais iddi, "Ym mha le y buost ti neithiwr, Beti?" "Yn fy ngwely, wrth gwrs, fel pawb arall, " meddai hithau. "Paham na fuasit