Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arolygu fy einioes, a gruddfan o herwydd meddwdod a phuteindra fy oes; yma yr wyf yn gweled fy nigywilydd—dra gynt; fy mhechodau gwaradwyddus yn eu lliwiau priodol. Yr wyf yn synu pa beth a'm gwnaeth yn ddiareb y Cymry am fudreddi a gogan. Yr wyf yn edrych ar fy hynt waradwyddus gyda thristwch, ac yn ocheneidio o herwydd cyfnodau drwg yn fy Mywgofiant. Ond yr wyf yn engraifft i'r oes o anurddiant pechod. Yr wyf yn esiampl o ddiofalwch, o feddwdod, o buteindra yr wyf yn golofn fyw o isder dynoliaeth, mewn dirif amrywiaeth o syrthiadau, yr wyf yn esboniad o allu Dwyfol mewn gwaredigaeth dihafal o feddwdod a'i ganlyniadau, yr wyf wedi bod yn adyn truenusaf—yn wawd i bawb, yn ddiareb i'r rhai a'm hadwaenent, yr wyf eto hefyd yn gwisgo fy sothach, mae genyf lawer o ffaeleddau.

Pa ddyn wedi y darllen y llyfryn hwn a beidia a rhyfeddu? Gwel fachgenyn a adawyd yn ddi ddysg, ac yn ddigelfyddyd, i fyned y ffordd yr arweinid ef gan ei galon lygredig. Yr oedd fel llong heb lyw, nac angor, yn cael ei ymlid gan dymestloedd, ac yn cyfarfod â thrychinebau arswydus yma a thraw. Nid oes un o fil o drigolion ein gwlad yn myned i ddegwm y gofidiau yr aeth Tomos Williams drwyddynt, ac y mae yn anhawdd iawn cydymdeimlo ag ef yn ei aml a'i flin gystuddiau, oblegid pethau a dynai am ei ben ei hun yn gwbl oeddynt, ar ol iddo ymado âg aelwyd ei fam . Pe buasai wedi cael addysg, meddyliasai am amgen swydd na dal penau ceffylau, a glanhau esgidiau &c.; a phe buasai ganddo grefft, ni feddyliasai am redeg yr Express, a gyru gwartheg; a phe buasai wedi cael dygiad i fynu crefyddol, buasai yn