Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

petruso cryn lawer, er fod milwriaeth yn fwy cymermadwy y pryd hwnw nag ydyw yn bresenol, cyn y gwerthasai ei hun yn gaethwas i fyned i ladd dynion am swllt yn y dydd! Leied o beth fuasai yn troi y peiriant yn y dechreu; ac o herwydd esgeuluso y peth bach hwnw y boen, y drafferth, y gwarth, a'r peryglon yr arweiniwyd Tomos Williams iddynt. Yr oedd ynddo ef, yn ddiau, megis y gwelir wrth ddarllen yr hanes, fwy o ddefnyddiau y gallasid gweithio arnynt i wneud dyn o hono, ac aelod o gymdeithas, nag sydd yn meddiant lluoedd sydd yn ymddangos yn well yn y byd. Aeth ar gyfeiliorn y cam cyıtaf o'i daith; a bu hyny yn foddion i'w arwain i roi canoedd o gamau o chwith ei ol. Y mae yn rhyfedd ei fod ef yn fyw; ac rhyfeddach fyth ei fod gyda chrefydd. Os dywedai Apostol mawr y cenedloedd , "O ba rai ly penaf ydwyf fi," beth a ddywed Tomos Williams?

Yr ydym yn gweled yn y drych sobr hwn y pwys mawr o ddwyn plant i fynu yn ofn yr Arglwydd. Ni wyr y rhai a gafodd hyn o ba sawl mil o ofidiau y gwaredwyd hwynt, nac yn mha le y buasent yn debyg o ddiweddu eu gyrfa heb hyny. a Byddai yn dda genym i bob rhieni sydd yn ddiofal am roi addysg i'w plant, ac am eu dwyn i fynu yn grefyddol, pe yr edrychent ar y darlun trwm a dynodd Tomos Williams o hono ei hun. Nid ydym yn ameu nad oes egin rhai a dyfant yn debyg iddo, i'w gweled wrth yr ugeiniau, yn heolydd ein trefydd yn y dyddiau presenol. Gall rhieni chwerthin am eu penau, ond y mae yr had yn cael ei hau; a gallant dramgwyddo wrth y rhai a'u galwant at eu dyledswydd, ond y mae y plant yn