Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

myned waeth waeth mewn drygioni. Rieni cymerwch rybudd a gofelwch am beidio magu plant fydd yn felldith i'r byd pan fo'eich llwch chwi yn y bedd. Nid ydym yn golygu y buasai yn gyfiawnhaol yn Nhomos William adrodd ei helyntion, drwy y wasg, oni bai fod tuedd mewn cyhoeddi hanesion o'r fath i weinyddu er rhybudd i ereill; sef, i rieni a edrychant ychydig ar ol eu plant, ac i blant a fagwyd ar aelwydydd rhieni difraw a diofal. Y mae y pethau a adroddwyd yn ddiaddurn, gan y gwr ei hun, yn sicr o gael sylw lluaws mawr yn ein gwlad; ac, yn enwedig, o'r dosbarth llwyrymataliol, a'r dosbarth crefyddol. Gwelir yn nrych yr hanes hwn mor bell y dichon i ddyn fyned yn nghyflawniad ei chwantau pechadurus heb gywilydd; ac mor angenrheidiol yw i rieni fagu eu plant mewn cyflwr y byddont yn agored i gywilyddio o achos gweithredoedd drwg. Arwydd trwm yw gweled plant heb fedru gwrido ar ol cyflawni yr hyn nad ydyw yn briodol. Dyma un o'r pethau boreuaf y mae rhieni o deimlad, pa un bynag ai tlawd ai cyfoethog fyddant, yn geisio gael fel egwyddor blanedig yn eu hiliogaeth. Defnyddir y ffordd o grio cywilydd yn y teulu, ac y mae yn fynych y llymach na'r wialen; sef, gwneud i'r plentyn deimlo ei ddarostyngiad. Y mae pob plentyn wrth natur am fod yn ormeswr, can belled ag y mae ei gylch yn cyraedd; ac un o'r pethau cyntaf sy gan y tad a'r fam i ymladd ag ef yw yr ysbryd mawr sydd yn tyfu ynddo. Y ffordd i'w fagu mewn anufudd-dod a digywilydd-dra yw gadael iddo gael pob peth a chwenycho, a pheidio ei geryddu pan wnelo ar fai. Nid peth yn tyfu ar unwaith yw hyfder; megis y gwelir ar fynediad plentyn i le dyeithr. Y mae