Tudalen:Hanes bywyd Thomas Williams, Capelulo.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HANES BYWYD

THOMAS WILLIAMS

&c

Y MAE llawer o ffyrdd gan ddynion i wneuthur eu hunain yn hynod yn y byd; ond nid ydyw pob. math o hynodrwydd i genfigenu wrtho. Y mae y gwrthddrych y sonir am dano yn nhu dalenau y llyfr hwn yn uu o'r rhai rhyfeddaf a hynotaf a fu yn y byd erioed, a chymeryd ei holl fuchedd o'r dechreu hyd yma dan sylw. Buasai yn anhawdd genym, gredu fod yn bosibl i ddyn fyned i'r fatha ddyfnderoedd o drueni wrth ddilyn ei chwantau, oni buasai ini glywed y peth o'i enau ef ei hun. Y mae yr hanes yn debycach i ffug-chwedl nag i wirionedd ar lawer o gyfrifon; eto yr ydis yn gorfod creda mai gwir ydyw; oblegid na fedd y cyfaddefwr ddigon o fedr i ddyfeisio y fath ddarlun didor a chyson o ddrygioni, ac nid ydyw y peth ye elw nac yn anrhydedd iddo. Y mae y ffeithiau yn dyfod y naill ar ol y llall i glymu yn eu gilydd. Y mae y gweithredydd wedi bod drostynt ganoedd o weithiau yn nghlyw ei gyfeillion a'i gymydogion, ae y mae wedi eu hadrodd bob amser yr un fath. Efallai, y dywed rhywrai na ddylasid dodi y fath gasgliad o bethau rhyfedd wrth eu gilydd. Gan mai ysgrifenu hanes bywyd yr oeddid, yr ydyni ni yn barnu yn ostyngiedig y dylasid; a phe byddai hanes bywydau dynion yn cael eu hysgrifenu gyda