Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/242

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mathews alwad oddiwrth yr eglwys yn Zoar, Castellnedd, a symudodd yno yn Medi 1847. Yr Ebrill canlynol, llwyddodd eglwys Mynydd Seion i gael gan ei hen weinidog, Mr. Griffiths, i ddychwelyd atynt o Aberhonddu. O hyny hyd Rhagfyr 1860, parhaodd i weinidogaethu yma gyda pharch mawr. Yna, o herwydd methiant ei iechyd, ymneillduodd o'r weinidogaeth, a symudodd i Aberhonddu, lle y bu farw yn fuan wedi hyny. Ar ol ymadawiad Mr. Griffiths, bu yr eglwys am tua blwyddyn a haner heb weinidog, ac yn anffodus methasant a chyduno i ddewis un. Yn Mawrth 1862, rhoddodd mwyafrif yr eglwys alwad i Mr. Levi Laurence, Adulam, Merthyr, ac ymneillduodd ei wrthwynebwyr, a gosodasant achos i fynu mewn ystafell yn y dref, lle y buont am rai blynyddau yn cynal gwasanaeth crefyddol. Er i'r ymraniad hwn gymeryd lle yn lled ddistaw a diwaradwydd, mae yn ddiau y gallesid ei ragflaenu, pe buasai y ddwy blaid yn arfer ychydig mwy o ddoethineb a phwyll. Ni bu arosiad Mr. Laurence yma yn hir. Barnodd yr eglwys yn angenrheidiol i dori ei chysylltiad ag ef yn Rhagfyr 1864. Buwyd drachefn heb weinidog sefydlog hyd 1867. Yn Gorphenaf y flwyddyn hono, urddwyd Mr. David Davies, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, yma, ac y mae efe yn parhau i gyflawni ei swydd er boddlonrwydd cyffredinol, hyd yn awr. Ni bu yr eglwys hon ar un cyfnod o'i hanes yn cynwys dros o gant i gant a haner o aelodau, ond y mae, o'i dechreuad hyd yn awr, wedi bod yn nodedig am ei gwresogrwydd, ei gweithgarwch, a'i haelioni. Meibion Mr. Griffiths, sef Mr. Henry Griffiths, Aberhonddu, Mr. Eliezer Griffiths, Kensington, South Australia, a Mr. W. Griffiths, M.A., Yarmouth, yn nghyd a Mr. David Nathan, Casnewydd, yw yr unig bregeth- wyr, hyd y gwyddom ni, a gyfodasant yn yr eglwys hon."

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

GRIFFITH GRIFFITHS. Ganwyd y gweinidog enwog hwn yn mhlwyf Llanedi, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1794. Yr oedd ei rieni aelodau parchus o'r hen eglwys Annibynol yn Llanedi. Bu farw ei dad pan yr oedd ef yn lled ieuangc. Yn fuan wedi hyny gosodwyd ef yn egwyddorwas i Saer, a bu yn gweithio yn yr alwedigaeth hono am rai blynyddau. Wedi iddo ymuno a'r eglwys yn Llanedi, a chael anogaeth ganddi i ddechreu pregethu, rhoddodd heibio ei alwedigaeth ac aeth i ysgol ragbarotoawl, ac oddiyno i athrofa y Neuaddlwyd. Ar ol bod yno am rai blynyddau, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn Ebenezer a Thynygwndwn, sir Aberteifi, lle yr urddwyd ef Ebrill 5ed, 1821. Rhoddir yr hanes canlynol o gyfarfodydd yr urddiad yn Seren Gomer am 1821:—
"Ar y 5ed o Ebrill diweddaf, urddwyd y brawd G. Griffiths (yn ddiweddar myfyriwr yn athrofa Neuaddlwyd), yn weinidog ar eglwysi Anymddibynol Tynygwndwn ac Ebenezer, sir Aberteifi. Dechreuwyd yr addoliad y dydd o'r blaen yn y lle blaenaf, am 12 o'r gloch. Gweddiodd y brawd T. Griffiths, Hawen; a phregethodd y brodyr W. Williams, Drewen, a D. Griffiths, Cydwely, (Esay x. 3; ac Act. xxviii. 22). Am 5 o'r gloch, yn yr un lle, gweddiodd y brawd T. Phillip, Llanedi; pregethodd y brodyr D. Davies, Aberteifi, a J. Evans, Penygroes, (Col. iii. 13; Gen. xviii. 12). Ar yr un pryd yn Ebenezer, pregethodd y brodyr Ll. Samuel (myfyriwr yn