dau achos parchus o'r un enwad, sef Penmain a Mynyddislwyn o bob tu iddo. Dichon y gallai y lle fod o lawer mwy o wasanaeth pe y troid ef yn achos Saesonig.
GOLDCLIFF.
Enw plwyf bychan yw hwn ar y gwastadedd rhwng y Casnewydd a Chasgwent, a rhwng cledrffordd Deheudir Cymru a'r mor. Yn y flwyddyn 1835, adeiladwyd yma addoldy bychan i'r Annibynwyr trwy ymdrechion y llafurus David Thomas, Llanfaches. Pregethwyd ar ei agoriad gan Mr. T. Gillman, Casnewydd; D. Davies, Penywaun; a D. Davies, New Inn. Achos gwan iawn, fel llin yn mygu, sydd wedi bod yma o'r cychwyniad hyd yn awr, ac nis gellir byth ddisgwyl iddo ddyfod yn gryf, oblegid nid yw holl drigolion y plwyf ond 250 o rif; ac o'r cyfryw y mae rhai yn myned i eglwys y plwyf, ac amryw yn perthyn i gynnulleidfa fechan o Fedyddwyr yn y gymydogaeth. Dan ofal gweinidogion Llanfaches, yn benaf, yn nghyd a phregethwyr cynnorthwyol o'r Casnewydd, y mae y lle hwn wedi bod o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol.
CAPEL Y GARN, ABERCARN.
Cangen o eglwys y Tynewydd, Mynyddislwyn, yw yr achos hwn. Yr oedd pregethu lled gyson yn yr ardal hon rai degau o flynyddau cyn ffurfiad yr eglwys yma. Bu y tri enwad-yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Methodistiaid-am rai blynyddau yn cydaddoli mewn ystafell, a roddid at eu gwasanaeth gan Mr. Daniel, Abercarn. Yn niwedd y flwyddyn 1841, dechreuodd yr Annibynwyr gadw cyfarfodydd iddynt eu hunain, yn nhai John Mathews a James Edmunds. Yn y flwyddyn 1846, cafwyd tir yn ymyl y ffordd yn mhen uchaf y pentref, gan Arglwydd Llanover, at adeiladu capel arno. Gosodwyd i lawr gareg sylfaen y capel yn nghanol haf y flwyddyn hono, gan Mr. Rosser Williams, Penrhiwffranc, Mynyddislwyn, ac anerchwyd y gwrandawyr ar yr achlysur gan Mr. Ellis, Mynyddislwyn, a Mr. Mathews, Castellnedd. Costiodd yr adeilad yn agos i 600p. Casglwyd dros 100p. ato gan Mr. Ellis a Mr. R. Williams, a rhoddodd Mr. Williams fenthyg 300p. yn ddilog, ar yr amod i'r gynnulleidfa dalu y corph yn ol y cyfartaledd o 25p. y flwyddyn, nes y buasai yr holl swm i fyny. Trwy y caredigrwydd hwn o eiddo Mr. Williams, ni fu talu am y capel yn nemawr o faich i'r gynnulleidfa. Yn 1855, yn mhen naw mlynedd ar ol adeiladu y capel, y gofynwyd am lès ar y tir. Hyd y lês yw cant ond un o flynyddau, a'r ardreth flynyddol yw deg swllt a chwe' cheiniog. Agorwyd yr addoldy Hyd. 20fed a'r 21ain, 1847, pryd y gweinyddwyd gan y gweinidogion canlynol: N. Stephens, Sirhowy; J. Ridge, Cendl; H. Daniel, Pontypool; M. Rees, Groeswen; E. Williams, Llanfairmuallt; W. Williams, Tredegar; E. Rowlands, Pont-y-pool, T. Jeffreys, Penycae, a J. Bowen, Penywaun. Bu yr aelodau yn myned i Fynyddislwyn i gymuno am oddeutu blwyddyn ar ol agoriad y capel, ond yn 1848, ffurfiwyd hwy yn eglwys Annibynol, dan weinidogaeth Mr. Ellis, gweinidog y fam eglwys. Y ddau ddiacon cyntaf yma oedd James Protheroe a John Mathews. Mae John Mathews, er's amser bellach, wedi gorphen ei yrfa ddaearol, ond y mae James Protheroe etto