oddiyma y daeth y pregethwyr enwocaf yn nghychwyniad Ymneillduaeth yn Nghymru, ac y mae nifer ar y maes yn awr sydd yn weinidogion cymeradwy, ac yn bregethwyr poblogaidd, a fagwyd ynddi, ond buasai sir Fynwy yn lled amddifaid o weinidogion pe buasai raid iddi ymddibynu yn hollol ar ei phlant ei hun. Nis gallwn yn hawdd gyfrif am hyn. Dichon fod gan yr iaith Saesonaeg lawer i'w wneyd a hyn, ac y mae dylanwadau Saesonaeg yn gweithio, a dullwedd Saesonaeg i'w gweled hyd yn nod lle y mae y bobl yn siarad Cymraeg. Yr oedd cyfleusterau i'w meibion droi i gylchoedd eraill, pan nad oedd mewn llawer o ranau mwy gwledig a Chymreig, ddim ond y pulpud i godi uchelgais bachgen tlawd i ddringo iddo; ac nid ydym yn sicr fod cynhesrwydd a gwres digonol wedi bod yn y sir mewn unrhyw gyfnod yn ei hanes i fod yn fagwrfa effeithiol i bregethwyr ieuaingc. Y mae yn ffaith mai o'r eglwysi gwresocaf yn eu haddoliadau, lle y maethrinid doniau neillduol mewn gweddi, y mae mwyaf o bregethwyr wedi codi; ac yn yr adegau mwyaf tanllyd ar yr eglwysi hyny, y maent yn gyffredin yn fwyaf lluosog. Mae rhai eglwysi yn sir Fynwy wedi bod yn nodedig am eu gwresawgrwydd, ac yr ydym yn meddwl mai o'r eglwysi hyny y cododd y nifer amlaf o bregethwyr; ar yr un pryd, nid gwresawgrwydd ydyw nodwedd arbenig eglwysi sir Fynwy; ac fe allai fod hyny yn cyfrif paham na fuasai mwy o'r meibion a fagwyd ynddi yn ymgysegru i'r weinidogaeth.
Os cymerir y lledaeniad helaeth a wneir ar lyfrau a chyhoeddiadau cyfnodol yr enwad, yn safon i farnu cymeriad deallol sir wrthi, yr ydym yn meddwl y saif sir Fynwy yn lled uchel ar y rhestr. Rhoddir gan yr eglwysi dderbyniad helaeth i lyfrau da; ac y maent yn gallu mwynhau gweinidogaeth bur a sylweddol, fyddo er cynydd ac adeiladaeth yn hytrach na gweinidogaeth arwynebol na wnelo ddim ond goglais teimladau, fel y dengys y dewisiad y maent fynychaf yn ei wneyd o rai i'w llywodraethu yn yr Arglwydd, ac i'w blaenori. Mae eglwysi y sir wedi profi nad ydynt yn ol i'r siroedd eraill mewn haelioni; ac y mae rhai o honynt wedi bod yn helaeth yn y gras hwn." Os edrychir ar adroddiadau cenhadol, ac adroddiadau ein hathrofau, ceir gweled eu bod, yn ol rhifedi yr aelodau, i fyny ag unrhyw sir arall; ac y mae haelioni mawr wedi cael ei ddangos gan amryw o honynt yn nghynnaliad yr achos yn gartrefol. Yr oedd syniadau uwch yn sir Fynwy bum' mlynedd ar hugain yn ol am y gydnabyddiaeth ddylasai gweinidogion gael am eu llafur, nag oedd yn gyff-