COFNODION BYWGRAPHYDDOL.
VAVASOR POWELL. Ganwyd y gweinidog enwog hwn yn Cnwcglas, yn sir Faesyfed, yn y flwyddyn 1617. Yr oedd yn perthyn i rai o'r teuluoedd mwyaf parchus yn siroedd Maesyfed, Maldwyn, ac Amwythig. Ar ol bod rai blynyddau mewn ysgolion rhagbarotoawl, aeth i Goleg Iesu, yn Rhydychain, lle y dywedir iddo fyned rhagddo yn enwog mewn dysgeidiaeth. Wedi dychwelyd adref o'r Brif-athrofa, bu am ychydig amser yn cadw ysgol yn y Clun, sir Amwythig. Ei ewythr, Erasmas Powell, oedd person y plwyf hwnw, a byddai ef yn arfer ei gynorthwyo trwy ddarllen y gweddiau; ond nid ymddengys iddo erioed gael urddau esgobol. Er ei fod wedi cael addysg dda, a'i fod yn nghylch myned i'r weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig, yr oedd, hyd nes yr oedd yn gyflawn ugain oed, yn hollol ddibrofiad o grefydd ysbrydol; ie, yn ddyn ieuangc coeg a difeddwl, ac hyd yn nod yn flaenor yn mysg ei gyfoedion mewn ynfydrwydd a drygioni; ond ymwelodd Ysbryd Duw yn rasol, ac i raddau yn annysgwyliadwy, ag ef. Fel yr oedd ar un Sabboth, mae yn debygol ar ol bod yn darllen y gweddiau yn yr Eglwys, ac yn ei wisg offeiriadol, nen "wisg bugailffol," fel y galwai efe hi, yn edrych ar nifer o bobl yn halogi y Sabboth gydag amryw o chwareuon ynfyd, daeth un o'r bobl a elwid y Puritaniaid yn ddygwyddiadol heibio, a chyfarchodd ef mewn modd hynaws gan ddywedyd, "A ydyw yn gweddu i chwi, Syr, yr hwn ydych yn ysgolhaig, ac yn un sydd wrth eich swydd yn dysgu eraill, i dori dydd yr Arglwydd yn y modd hwn?" Atebodd yntau yn ngeiriau y gwawdwyr yn Malachi; "Yn mha beth yr wyf fi yn ei dori? Yr ydych yn gweled nad wyf fi yn gwneyd dim ond sefyll yma. Nid wyf yn chwareu o gwbl." "Ond," ebe y dyn, "yr ydych yn ymbleseru yn yr hyn a wnant hwy wrth edrych arnynt, ac y mae Duw yn gwahardd hyny yn ei Air santaidd." Gyda hyny efe a agorodd ei Fibl, ac a ddarllenodd Esay lviii. 13, yn neillduol yr ymadrodd, "Heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd santaidd." Cafodd y geiriau y fath effaith ar feddwl y gwr ieuangc fel y penderfyn- odd na throseddai felly byth mwyach, a chynorthwyodd Duw ef i sefyll at ei benderfyniad. Ond yr oedd etto heb ei lwyr argyhoeddi o'i gyflwr colledig, a'i angen o Grist. Tua blwyddyn ar ol hyn, sef yn y flwyddyn 1639, arweiniwyd ef gan ragluniaeth i wrandaw "hen bregethwr ardderchog;" Mr. Wroth, mae yn bosibl, geiriau yr hwn a adawsant argraph annileadwy ar ei feddwl, yr hwn a ddyfnhawyd ar ol hyny wrth ddarllen "Y gorsen ysig," gan Sibbs, yn nghyd ag un o lyfrau Mr. Perkins. O'r diwedd, trwy weinidogaeth rymus Mr. Walter Cradock, ac amryw foddion eraill, cafodd ei arwain i ymgyflwyno yn hollol i'r Arglwydd. Nid yw yr amser, yn gywir, y dechreuodd bregethu, yn hysbys. Yn y flwyddyn 1640, pan yn pregethu mewn anedd-dy yn sir Frycheiniog, cafodd ef, a thua thriugain o'i wrandawyr, eu dal gan bymtheg neu un-ar-bymtheg o erlidwyr, y rhai a gymerent arnynt fod ganddynt warant oddiwrth yr Ynad Williams, o Lanfairmuallt. Y noson hono cawsant eu cloi mewn eglwys, a'r dydd canlynol arweiniwyd hwy i dy yr Ynad, yr hwn a'u rhoddodd dan ofal heddgeidwaid. Dranoeth, cawsant eu holi ger bron yr Ynad hwnw, a dau neu dri o Ynadon eraill, yn nghyda chwech neu saith o offeiriaid; ond ar ol hir ymgynghoriad gollyngwyd hwy gyda llawer o fygythion. Ychydig amser ar ol hyny,