HUGH OWEN. Yn Mron y Clydwr, yn mhlwyf Llanegryn, Meirionydd, yr oedd ef yn byw, a thebygol mai yno y ganwyd ef, yn y flwyddyn 1637. Efe oedd perchenog y lle hwnw. Yr oedd yn fyfyriwr yn mhrif Athrofa Rhydychain pan basiwyd Deddf Unffurfiaeth yn 1662. Gan nas gallasai gydymffurfio, ymadawodd oddi yno, ac aeth am ychydig amser i Lundain, ond dychwelodd yn fuan i le ei enedigaeth, lle y treuliodd weddill ei oes i bregethu yr efengyl gyda diwydrwydd a ffyddlondeb apostolaidd i'w gydwladwyr. Yr oedd ganddo chwech o leoedd yn sir Feirionydd, a'r un nifer yn sir Drefaldwyn, lle y byddai yn arfer pregethu yn rheolaidd ; felly, nis gallasai ymweled a phob un o'r lleoedd hyn ar y Sabboth yn fynychach nag unwaith bob tri mis. O ran ei amgylchiadau bydol yr oedd yn dra chysurus; yn byw ar ei dir ei hun, ac yn berchen rhai tiroedd eraill. Fel dyn, yr oedd o dymer hynod garedig, ac yn nodedig o ofalus i beidio dolurio teimladau neb, os gallasai mewn un modd ochelyd hyny. Yr oedd yn enwog am ei ostyngeiddrwydd. Er ei fod yn uwch yn ei sefyllfa fydol na'r rhan fwyaf o'r rhai y cyfeillachai fwyaf a hwynt, etto yr oedd mor ostyngedig fel yr oedd yn wastad yn cyfrif eraill yn well nag ef ei hun. Yr oedd fel Cristion yn hynod am ei dduwiolfrydedd a'i agosrwydd at yr Arglwydd. Yr oedd yn ddigyffelyb yn ei effeithiolrwydd fel gweddiwr. Unwaith, yn nheyrnasiad Iago II., daeth Is-Sirydd Meirionydd i Fronyclydwr, a gwarant i'w gymeryd i garchar am bregethu yr efengyl. Dywedodd y gwr da ar unwaith ei fod yn foddlon myned gyda'r swyddog, ond dymunodd gael caniatad i fyned i weddi gyda ei deulu cyn ymadael, yr hyn a ganiatawyd iddo. Effeithiodd ei weddi gymaint ar y swyddwr fel y methodd a chael ar ei galon i gyffwrdd ag ef pan gyfododd oddiar ei liniau, ac aeth ymaith gan adael ei garcharor yn wr rhydd. Dro arall, cymerwyd ef trwy warant am yr un trosedd ger bron Arglwydd Powys, i'r Castell Coch. Bu yno am rai dyddiau yn garcharor, ond clywodd ei arglwyddiaeth ef yn gweddio, a thoddwyd ei deimladau i'r fath raddau, er ei fod yn Babydd, fel y dywedodd wrth ei offeiriad—"Yn sicr Cristion da yw y gwr hwn." Gollyngodd ef yn rhydd, a gwnaeth iddo addaw wrth ymadael i ymweled a Chastell Powys bob Nadolig.
Fel pregethwr, yr oedd yn hollol efengylaidd, yn effeithiol a dengar nodedig, ac felly ymgasglai lluaws i'w wrandaw i bob lle yr elai. Yr oedd yn nodedig am ei ryddfrydigrwydd. Er ei fod yn ddiysgog yn ei ymlyniad wrth ei olygiadau ei hun, yr oedd yn anwylo pawb a ddygent ddelw y Gwaredwr, pa faint bynag fuasent yn gwahaniaethu yn eu barn ar ryw bynciau oddi wrtho ef.
Cyfarfyddodd yn ystod ei fywyd llafurus â llawer o beryglon, ond gwaredwyd ef braidd yn wyrthiol amryw weithiau. Unwaith, pan yn dychwelyd adref ar noswaith dywyll iawn, collodd y ffordd, a deallodd ei fod mewn lle enbyd. Yn ei gyfyngder a'i berygl, disgynodd oddiar ei geffyl, ac aeth i weddi am gyfarwyddyd a nodded Duw. Cyn ei fod wedi gorphen gweddio, cliriodd yr wybr uwch ei ben, fel y gallodd yn rhwydd weled pa le yr oedd, a dianc o'i berygl. Dro arall, wrth fyned i'w daith i bregethu trwy y rhew a'r eira, goddiweddwyd ef gan y nos ar y mynydd, a chyfododd ystorm ddisymwth, fel y chwythid yr eira yn ei wyneb nes y methai y ceffyl fyned rhagddo. Gollyngodd ef gan hyny i fyned lle y gallai, hyd nes y cafodd ei fod yn agos i gorsydd peryglus, fel nas gallasai fyned yn mhellach. Wedi rhoddi ei ofal i'r Arglwydd mewn gweddi, gadawodd y ceffyl i fyned rhagddo, a cherddodd yntau trwy yr eira dwfn