duwinyddol yn Lladin; ac ni chollodd ddim o'i deimladau crefyddol wrth ymwneyd â'r pethau sychion hyny. Y tro cyntaf y derbyniodd ychydig arian er ei gynhaliaeth gan awdurdodau yr Athrofa, torodd allan i wylo, a dywedodd "Tarawodd i fy meddwl yn gryf nad oedd derbyn yr arian yma yn ddim gwell na chysegr—ladrad, os na ddefnyddiwn hwy i'r dyben cysegredig ag ydoedd mewn golwg wrth eu rhoddi." Yn ystod yr amser yr oedd ef yn fyfyriwr, tua diwedd 1781, rhoddodd Dr. Davies ei ofal i fyny yn Abergavenny, a symudwyd yr Athrofa mewn canlyniad i Groesoswallt, dan ofal Dr. Edward Williams. Arweiniwyd Mr. Lewis fel hyn i ymyl y maes oedd yn ngolwg Rhagluniaeth iddo lafurio ynddo.
Trwy symudiad Mr. J. Griffith i Gaernarfon, gadawyd eglwys Llanfyllin yn amddifad, a derbyniodd Mr. Lewis ei gwahoddiad i sefydlu yno, ac urddwyd ef fel y gwelsom Sulgwyn 1785. Ymroddodd Mr. Lewis â'i holl egni i gyflawni ei weinidogaeth, ac er pob gwrthwynebiad a'i cyfarfu nid ymollyngodd. Helaethodd ei lafur y tu allan i'r dref, a bu yn offerynol i blanu amryw o'r eglwysi cylchynol. Yr oedd ei lafur yn ngwinllan ei Arglwydd yn fawr. Pregethai fynychaf dair gwaith ar y Sabboth, a cherddai o bymtheg i ugain milldir; ac ar ddyddiau yr wythnos, yr oedd mewn llafur gwastadol. Yr oedd yn nodedig am brydlondeb, ac ni fynai er dim fod y bobl yn disgwyl wrtho ef. Gwylaidd iawn oedd ei deimladau, fel mai anhawdd fyddai cael ganddo wneyd dim os byddai gweinidogion eraill yn bresenol, am yr ystyriai ei hun y lleiaf yn eu plith. Calfinaidd ydoedd o ran ei olygiadau duwinyddol, ond byddai gwedd ymarferol i'w holl bregethau. Llefarai yn llym yn erbyn pechod, ac yr oedd tuedd ddeffrous argyhoeddiadol i'w weinidogaeth. Yr oedd o deimladau cryfion; a phan y byddai ei ysbryd wedi digio, ni fedrai guddio hyny o'i wyneb. Llefarai yn ddidderbyn—wyneb fel y teimlai, a gallai y rhai a'i hadwaenai ddarllen ei galon yn ei edrychiad. Ond yr oedd ei serchiadau hefyd yn gryfion, fel yr oedd anwyldeb mawr rhyngddo a'i gyfeillion. Amlygai ofal arbenig am bobl ieuaingc ei gynnulleidfa, a phobl ieuaingc y teuluoedd â'r rhai yr ymwelai; ac ni chollai yr un cyfleusdra i ymddyddan yn bersonol â hwy.
Adroddir ei fod unwaith mewn teulu, ac anfonwyd bachgen bychan naw oed i ddangos y ffordd iddo wrth fyned ymaith. Dechreuodd holi y bachgen bachgen bach yn nghylch achos ei enaid, a rhoddodd iddo lawer o gynghorion gwerthfawr, y rhai yr ymddangosai y llanc bach yn eu derbyn. Pan o gylch pedair—ar—ddeg oed, gadawodd y bachgen hwnw dy ei dad, a dechreuodd ymwylltio gyda bechgyn anystyriol, a daeth cyn hir yn flaenor mewn annuwioldeb yn eu plith. Clywodd Mr. Lewis hyn, a gofidiodd yn fawr, a mawr oedd ei awydd am weled y bachgen drachefn. Yn Rhagluniaethol, cyfarfu ag ef ar y ffordd, a daliwyd y bachgen pan ei gwelodd â'r fath ddychryn fel na feddai nerth i ffoi na gwroldeb i'w wynebu. Cyn gynted ag yr adnabu Mr. Lewis ef, disgynodd oddiar ei anifail—rhedodd i'w gyfarfod—cofleidiodd ef gyda thyrerwch tad—ac yn ei ddagrau, dywedodd—"Ow! fy machgen! Ow! fy machgen! Pa fodd y diengaist?" Gwnaeth ei ymddygiad serchog—ei ddagrau dwysion—a'i eiriau tyner argraff annileadwy ar feddwl y llanc; ac o'r dydd hwnw allan newidiodd gwrs yn hollol, gan ddwyn arwyddion amlwg o gyfnewidiad cyflwr; a bu ar ol hyny am oes hir yn bregethwr llwyddianus. Y fath oedd serch y bobl ieuaingc tuag ato fel yr ymgasglent o gylch ei dy i holi ei helynt pan oedd yn glaf; a phan yr oedd yn marw, sylwyd ar un gwr ieuangc yn