lleth, cyrchai i'w gwrando yn achlysurol ar ol dychwelyd gartref, er fod gan weinidogaeth gyffrous a thanllyd y Methodistiaid, yr hon a arferasai wrando o'i febyd, hyd yma fwy o swyn i'w feddwl a'i dymer fywiog ef.
Ar y 4ydd o Orphenaf, 1805, priododd â Mary, merch henaf John Hughes, Ysw., Llwynglas, yn mhlwyf Llanfihangel-genau'r-glyn, yr hwn oedd wr cyfrifol, ac yn ynad heddwch yn sir Aberteifi. Dranoeth i ddydd ei briodas yr agorwyd y capel newydd yn Nhalybont; a daeth ef a'i wraig i deimlo fod yn rhaid iddynt sefydlu i addoli yn rheolaidd yn rhywle. Aeth i fyw i le a elwir Cerrigcaranau, o gylch dwy filldir o Dalybont, a thua yr un pellder oddiwrth gapel i'r Methodistiaid. Gogwyddai Mr. Morgan i fyned i gapel y Methodistiaid, ond gogwyddai Mrs. Morgan yn fwy i fyned i Dalybont, ac felly y penderfynwyd; ac yn mis Medi 1807, derbyniwyd hwy ill dau yn aelodau eglwysig gan Mr. Azariah Shadrach. Digwyddodd fod gan Mr. Morgan yn yr adeg yma wasanaeth-ddyn, yr hwn oedd yn aelod yn Nhalybont; a dywed i gyfeillach ac addysgiadau y gwas da hwnw fod o wasanaeth dirfawr iddo ef yn nechreuad ei grefydd. Yn yr adeg yma, yr oedd y Wesleyaid wedi dyfod i'r wlad, ac yn lledaenu eu golygiadau y rhai oedd y pryd hwnw yn newydd a dyeithr i'r lluaws; a dywed Mr. Morgan mai ei hoffder o ddadleu, a'i awydd am gael rhesymau i'w gwrthsefyll hwy, a barodd iddo chwilio y Beibl yn fanylach nag y gwnaethai erioed o'r blaen; a darllenai bob peth a ddeuai i'w gyrhaedd ar y pynciau mewn dadl. Yr oedd y fath yni a bywiogrwydd yn ei natur fel y taflodd ei holl galon i waith crefydd ar ei ymuniad â'r eglwys yn Nhaly bont. Tynodd wg ei deulu yn-nghyfraith drwy ei waith yn ymuno â'r Ymneillduwyr; oblegid Eglwyswyr uchelfrydig oeddynt hwy, ac ystyrient fod ymuno â'r Ymneillduwyr, yn arbenig â'r Annibynwyr, yn ddiraddiad iddynt fel teulu. Ac yn enwedig pan y cymerodd ei gyntafanedig i Dalybont i'w fedyddio gan Mr. Shadrach, aeth eu digter dros fesur. Nid ymddygai ei thad at Mrs. Morgan fel cynt; ac yr oedd ei brawd henaf, yr hwn oedd gyfreithiwr, yn llawn digllonedd tuag ati, a chiliai ei chwiorydd oddi wrthi fel un wedi diraddio y teulu; ond yr oeddynt hwy ill dau wedi bwrw y draul; ac er eu bod yn teimlo oddiwrth y diystyrwch a deflid arnynt, etto nid ysigwyd eu penderfyniad i lynu yn eu proffes. Yr oedd brawd ieuengaf Mrs. Morgan yn offeiriad, ac yn gweinyddu ar y pryd yn sir Ddinbych; ond symudodd wedi hyny i Aberystwyth; ac y mae enw Mr. J. Hughes yn barchus gan lawer yn y dref fel offeiriad crefyddol ac efengylaidd. Daeth ef adref ar ymweliad â'i dad, a gosododd y teulu ger ei fron ymddygiad Mr. a Mrs. Morgan yn ymuno â'r Annibynwyr, ac yn neillduol eu gwaith yn cymeryd eu plentyn at bregethwr Ymneillduol i'w fedyddio. Cymerodd Mr. Hughes blaid ei chwaer a'i frawd-yn-nghyfraith, a dywedodd iddynt wneyd yn hollol yn eu lle, gan eu bod wedi ymuno â'r Ymneillduwyr, nad oedd dim yn fwy rhesymol nag iddynt fyned a'u plentyn at eu gweinidog eu hunain i'w fedyddio; ac am y bedydd, ei fod mor gyfreithlon yn ngwyneb y Beibl a chyfraith y wlad a phe buasai wedi ei weinyddu gan Archesgob Canterbury. Lliniarodd hyny ddrwg deimlad y teulu tuag atynt, ac adferwyd iddynt eu sirioldeb a'u caredigrwydd blaenorol; a bu Mr. Morgan a Mr. Hughes, yr offeiriad, yn gyfeillion mynwesol hyd derfyn eu gyrfa.
Pan yr ymunodd Mr. Morgan â'r eglwys fechan yn Nhalybont, nid oedd dim yn mhellach oddiwrth ei feddwl na myned i'r weinidogaeth; nac, yn wir, hyd yn nod yn bregethwr achlysurol. Gwthiwyd y peth arno yn