Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/315

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hollol heb iddo ei geisio. Mewn cyfeillach eglwysig, yn mhen rhyw chwech wythnos wedi ei dderbyniad yn aelod, dywedodd Mr. Shadrach ei fod am i bump o'r aelodau gwrrywaidd oedd yno, gan eu henwi, gymeryd rhyw adnod i wneyd ychydig sylwadau arni yn y cyfeillachau yr wythnosau dilynol, ac yna enwodd pwy oedd i ddechreu yn y gyfeillach gyntaf; ac ychwanegai, hwyrach erbyn i'r pum brawd yma wneyd, y bydd Mr. Morgan wedi cael amser i feddwl am rywbeth i'w ddyweyd. Yn unol â'i fywiogrwydd arferol, nid arosodd Mr. Morgan i glywed y pum brawd yn myned trwyddi cyn dechreu meddwl pa beth a ddywedai, ond dechreuodd feddwl yn ddioed; ac ymagorodd cymaint o bethau iddo, fel y tybiai y gallasai lefaru am unrhyw bryd. Noson y gyfeillach yn mhen yr wythnos a ddaeth; ond erbyn myned yno, nid oedd yr un o'r pump brawd a enwyd yn bresenol. Ceisiodd Mr. Shadrach gan Mr. Morgan ddyweyd ychydig, ond mynai ar bob cyfrif ymesgusodi; ond wrth hir wasgu arno, cododd, a darllenodd 2 Cor. vii. 2, a llefarodd am awr gyda'r fath gyflymder, a bywiogrwydd, a nerth nes synu pawb yn y lle. Ar ol hyny, nid oedd llonyddwch iddo na Sabboth nac wythnos, yn y capel nac ar hyd y tai; ond gorfodid ef i ddyweyd ar ryw ran o'r Ysgrythyr agos yn mhob eyfarfod, os na buasai yno bregethwr; ac unwaith y dechreuai, nid oedd na phall na diwedd arno. Yr oedd yr adeg hono yn adeg gyffrous iawn ar grefydd, a thywalltiadau helaeth o'r Ysbryd Glan yn cael eu profi mewn manau; ac yr oedd angerddoldeb ysbryd Mr. Morgan yn cael ei ddwyn allan mewn modd amlwg yn nghyfarfodydd y dyddiau hyny.

Dichon fod y gorweithiad a wnaed arno y pryd hwnw, a'r orfodaeth a roddid arno i lefaru mewn cyfarfodydd bedair neu bum waith yr wythnos, a hyny pan nad oedd cylch ei ddarlleniad a'i wybodaeth ond cyfyng, ac na chaniateid iddo hamdden i drefnu ei feddyliau yn briodol, wedi effeithio ar ei arddull dros ei holl fywyd. Mabwysiadodd ddull gwasgarog, cwmpasog, ac amleiriog; a chydnabyddai ei hun fod hyny yn codi oddiar na chafodd neb pan oedd yn ieuangc i'w gyfarwyddo am y dull goreu i drefnu ei sylwadau a thraethu ei feddyliau. Yn mhen o gylch deufis wedi y gyfeillach, yn yr hon y siaradodd ar destun gyntaf; ac wedi gwneyd hyny lawer gwaith drachefn, gofynodd Mr. Shadrach mewn cyfarfod eglwysig i'r eglwys, a oeddynt yn derbyn Mr. Morgan fel pregethwr rheolaidd; ac wedi cael atebiad cadarnhaol, a hwnw yn hollol unfrydol, y Sabboth canlynol, ymaflodd Mr. Shadrach yn ei law, ac arweiniodd ef i'r pulpud i bregethu o'i flaen; a dyna y tro cyntaf erioed i Mr. Morgan fod mewn pulpud yn cynyg ar y gwaith o bregethu. O hyny allan, ymroddodd â'i holl egni i wneyd "gwaith efengylwr." Bu am fwy na chwe blynedd yn pregethu bedair neu bum waith bob wythnos, ac yn fynych yn amlach na hyny, trwy yr holl ardaloedd o amgylch Talybont, a hyny heb dderbyn unrhyw gydnabyddiaeth am ei lafur. Arferai fyned unwaith bob mis am flynyddau dros afon Dyfi i'r Towyn, Llanegryn, a Llwyngwril, i gynorthwyo Mr. James Griffith, ar yr hwn y pryd hwnw yr oedd gofal y lleoedd bychain hyn mewn cysylltiad â Machynlleth. Yn 1811, rhoddodd Mr. Griffith i fyny ofal y Towyn, Llanegryn, a Llwyngwril, gan gyfyngu ei lafur i Fachynlleth ac Aberhosan; ac anogwyd Mr. Morgan gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, Mr. W. Hughes, Dinas, a Mr. W. Jones, Trawsfynydd, i gymeryd eu gofal. Yn unol â'r cais, ac ar wahoddiad yr eglwysi, cydsyniodd yntau, ac urddwyd ef mewn cyfarfod a gynhaliwyd i'r pwrpas yn yr awyr agored yn Towyn yn mis Mawrth 1813. Ni