Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/329

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi eu talu. Mae tir hefyd wedi ei brynu am 90p. i adeiladu festri arno, er nad yw hyny etto wedi ei wneyd. Yn ychwanegol at hyn, prynwyd darn o dir am 90p. mewn man dymunol o'r dref er adeiladu arno dy i weinidog y Graig a'i olynwyr yn y weinidogaeth yno.

Mae yn deilwng o'i gofnodi yma fod Mrs. Griffiths, gweddw y diweddar Mr. D. Griffiths, Cenhadwr yn Madagascar, wedi rhoddi 150p. i'r amcan hwn, a 100p. arall i'w defnyddio i'r un perwyl; ond fod llog blynyddol i'w dalu ar y cant diweddaf a nodwyd i fyned er cynorthwyo tlodion eglwys a chynnulleidfa y Graig. Erbyn hyn y mae y ty agos a bod yn barod, a chydnabyddir gan bawb ei fod yn un o'r adeiladau goreu yn y dref. Yn ychwanegol at y pethau a nodwyd, yn 1869, prynodd yr eglwys yn y lle yn nglyn a'r Methodistiaid Calfinaidd o gylch dwy erw o dir, yn un o'r manau mwyaf dymunol yn ymyl y dref, i fod yn gladdfa iddynt; ac erbyn hyn y mae y Bedyddwyr wedi uno â hwy; ac am na fynai neb arall ymuno, y mae y tir wedi ei ddiogelu hyd byth i fod yn eiddo cyffredin cydrhwng y tri enwad.

Mae hanes eglwys yn cael ei gwneyd i fyny o hanes personau unigol; ac er nas gallwn grybwyll am yr holl unigolion a fu yn perthyn i'r eglwys hon o'r dechreuad, etto y mae rhai nodedig wedi bod yn eu plith, ac ni byddai yr hanes yn gyflawn heb grybwylliad am danynt.

Hugh Pugh oedd ddyn gonest a didderbyn wyneb. Er fod ei dymer naturiol yn sarug ac afrywiog, etto yr oedd yn ddyn gwerthfawr, a gwasanaethodd yr eglwys fel diacon am lawer o flynyddoedd. Yr oedd yn ei ddydd yn un o'r arweinwyr canu goreu a geid mewn cynnulleidfa, a'i lais yn glir a chwmpasog.

Robert Peter a gyfrifid yn un o'r dynion didwyllaf a chywiraf mewn cymdeithas. Efe oedd y pen saer-maen yn adeiladaeth y capel presenol, ac y mae ei furiau yn gof-arwydd o'i fedrusrwydd yn ei gelfyddyd.

John Lewis oedd yn nodedig am ei gyfarwydd-deb yn yr Ysgrythyrau. Ystyrid ef yn Fynegair byw. Yr oedd ei dad hefyd, yr hwn oedd o'r un enw, uwchlaw y cyffredin yn ei wybodaeth.

Peter Robert oedd yn enwog am ei ffyddlondeb; a Rowland Pryce yn hen lanc cywir galon; ac Edward Meredith, un o'r rhai hoffusaf ei ysbryd a fu erioed mewn eglwys; a David Thomas, tad Mr. John Thomas, Abertawy, oedd yn Gristion ffyddlon, ac yn cyflawni ei swydd yn ddiddig a didrwst, heblaw llawer eraill nas gallwn eu crybwyll.

Ni byddai yr hanes yn gyflawn heb grybwyll enwau rhai chwiorydd dylanwadol a fu yn nglyn a'r achos yma; ac yn eu ffordd hwy, efallai yn llawn mor deilwng o'u cofnodi a neb. Mrs. Anwyl, Llugwy, a Mrs. Davies, Rhiwlas, a gymerasant lawer o boen er mwyn yr achos yma, gan ei ymgeleddu yn ei wendid a'i ddinodedd. Mrs. Watkins a Mrs. Lewis a fuont ill dwy yn dirion i'r achos yn eu bywyd, ac a gofiasant am dano yn eu hewyllysiau diweddaf. Gadawodd y flaenaf 300p., llog yr haner i'r eglwys yn y Graig, a'r haner arall cydrhwng eglwysi Towyn a Llwyngwril, y rhai a delir yn rheolaidd. Gadawodd y llall 5p. yn flynyddol i weinidog y Graig, pwy bynag fyddai, o genhedlaeth i genhedlaeth. Gadawyd y gymunrodd hon am ryw reswm dros flynyddau heb ei chodi; ac erbyn hyn, y mae y Charity Commissioners wedi penderfynu nas gellir ei chodi.

Mrs. Miles oedd wraig o synwyr cryf, a bu am flynyddoedd yn brif gynhalydd i'r achos. Mrs. Morgan, merch y dywededig Mrs. Miles, oedd