ychydig gyda blwyddyn; canys ymfudodd i America yn ngwanwyn 1842. Bu am dymor yno yn cynorthwyo Dr. Everett yn Steuben, a bu wedi hyny dros yspaid yn Pittsburgh. Trwy ryw amgylchiadau, darfu ei gysylltiad a'r Annibynwyr Cymreig, a symudodd i Canada, lle y bu farw er's rhai blynyddau yn ol, ac ni chlywsom ddim am ei gysylltiadau crefyddol yn niwedd ei oes. Ystyrid Mr. Howes yn ddyn da, ond yn wan ac ansefydlog. Pregethai am dro yn hyawdl a phoblogaidd; ond nid oedd defnydd ynddo i barhau fel gweinidog sefydlog. Yr oedd o deimladau cryfion, a theimlai serch cryf at ei gyfeillion; ac felly y teimlent hwythau ato yntau.
Mae Mr. Edwards a Mr. Jones etto yn aros; a gobeithiwn fod blynyddoedd lawer o ddefnyddioldeb mawr yn ol iddynt.
ABERHOSAN.
Dyma y gangen gyntaf a dorodd allan o eglwys y Graig, Machynlleth. Saif o fewn ychydig gyda phedair milldir o'r dref, ar y llaw ddeheu i'r ffordd sydd yn arwain i Lanidloes. Y Methodistiaid, fel yr ymddengys, a ddechreuodd bregethu yn yr ardal, a hyny cyn canol y ddeunawfed ganrif; a bu ganddynt am dymor yma achos lled flodeuog. Yr oedd yma hen bregethwr perthynol iddynt o'r enw William Lewis, yr hwn a fu yn gynorthwy mawr i'r achos. Cymerasant dy bychan i bregethu ynddo, yr hwn hyd heddyw a elwir "yr hen gapel," er mai ychydig bregethu fu ynddo yn y ganrif bresenol. Cynhaliodd y Methodistiaid Gymdeithasfa yn y lle hwn yn 1770; ac yr oedd Peter Williams, William Williams, Pantycelyn, a Dafydd Morris, yn mysg eraill, yn pregethu ynddi. Yr oedd yr Annibynwyr wedi dechreu pregethu yn Aberhosan yn mhell cyn i'r Methodistiaid roddi yr achos i fyny; ac yr oedd y cyfeillgarwch puraf rhwng y ddau enwad. Deuent yn fynych at eu gilydd i gyfarfodydd gweddi, a chyfeillachau crefyddol. Adroddir am ryw gyfarfod gweddi nodedig a gafwyd yn lle addoliad yr Annibynwyr, yn yr hwn yr oedd gwr ieuange perthynol i'r Methodistiaid, yr hwn oedd yn cadw ysgol yn yr ardal, mewn teimladau neillduol. Pan ar ganol gweddio, torodd allan i ganmol a molianu, a symudai ar ei liniau o amgylch yr ystafell fel un wedi cwbl anghofio ei hun yn y mwynhad ysbrydol a brofai. Crybwyllai yr adnod hono—"Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddeng mil"—a chwanegai gyda nerth mawr, "deng mil o'r peth a fynoch."[1]
Tua'r flwyddyn 1791, y flwyddyn y daeth Mr. John Evans, i Machynlleth, y dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn Aberhosan. Yr oedd un Hugh Tudor, yr hwn oedd yn byw yn y Dyffryn, wedi dyfod i gydnabyddiaeth â Mr. Evans, ac wedi ei hoffi yn fawr, a gwahoddodd ef i'w dy i bregethu. Derbyniodd Mr. Evans y cynhygiad, ac aeth yno i bregethu, a dyna y bregeth gyntaf hyd y mae genym hanes gan Annibynwr yn mhlwyf Penegos. Bu Hugh Tudor yn noddwr caredig i'r achos am flynyddau, ac agorodd ei ddrws i dderbyn yr efengyl. Nid oedd ef ei hun yn proffesu crefydd, ac ni ddaeth ar ol hyny; ac ysywaeth yn ddyn
anystyriol y parhaodd hyd ei fedd; ond teimlai yn falch mai efe a agorodd
- ↑ Methodistiaeth Cymru, Cyf. II, tudal. 244.