Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/336

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei dy gyntaf i'r efengyl yn y lle, a byddai yn fynych yn ymffrostio mai efe oedd tad yr achos yn Aberhosan.

Yn yr adeg y bu Mr. Evans yn cyrchu i'r Dyffryn i bregethu, yr oedd un John Bulk neu Vulk yn ymweled â'r lle, ac yn pregethu yn achlysurol. Mae mwy nag un o'r enw yma wedi bod yn mysg efengylwyr teithiol Cymru, y rhai a ddaw dan ein sylw yn eu lleoedd priodol. Cafodd pregethau taranllyd y gwr hwn argraff ddofn yn ardal Aberhosan. Adroddir am dro rhyfedd a gymerodd le o dan ei weinidogaeth yn mhen ychydig amser wedi i bregethu ddechreu yn y Dyffryn. Yr oedd ar un prydnawn Sabboth yn pregethu yn ysgubor Esgairfochnant, perthynoly pryd hwnw i Humphrey Tudor, brawd Hugh Tudor. Daeth yno luaws ynghyd, ac yr oedd y pregethwr yn taranu yn ddychrynllyd oddiar Sinai, a cherddai rhyw nerth anorchfygol gyda'i weinidogaeth. Torodd y gynnulleidfa allan i lefain a gwaeddi yn ddychrynedig iawn am eu bywyd; ac o'r diwedd i neidio mewn gorfoledd, fel rhai yn gweled diangfa.[1][2] Nid hir y bu gweinidogaeth Mr. Evans yn y Dyffryn heb ddwyn ffrwyth; ac yn mysg y dychweledigion cyntaf yr oedd dau o bersonau a fu wedi hyny am dymor maith o was naeth mawr i'r achos yn y lle, sef Sion Evan, Cwmgwarchae, a Griffith Jones, Tygwyn. Nid oedd Mr. G. Jones ond dyn ieuangc, ac aeth am dymor oddi cartref i'r ysgol, yr hyn oedd yn golled fawr i'r achos bychan; ond dychwelodd adref cyn hir. Symudwyd yr achos o'r Dyffryn i dy yn Aberhosan, o fewn lled cae i'r man lle y cyfarfyddai y Methodistiaid i addoli; ac yno y buont hyd nes y codwyd y capel yn y flwyddyn 1808.

Yn fuan wedi symudiad yr achos i Aberhosan, daeth dyn ieuangc o'r enw Sion Wood i wasanaethu i'r ardal. Un o gymydogaeth y Penant, Llanbrynmair, ydoedd, fel yr ymddengys. Yr oedd yn ymchwilgar ei ysbryd, ac yn gryn dipyn o ddadleuwr. Pan glywodd fod Mr. Evans yn Machynlleth yn pregethu rhyw bethau a dybiai efe yn hynod, penderfynodd fyned i'w wrando, a chael ymddyddan ag ef. Yno yr aeth, ac ar ganol yr oedfa torodd yn orfoledd; ac yn mhlith y lluaws, gwelwyd Sion Wood, y cecryn dadleugar, yn molianu hefyd.[3][4] Arweiniodd Rhagluniaeth ef yn fuan ar ol hyn i Gefngwyddgrug i wasanaethu; a chan fod Mr. G. Jones, Tygwyn, wedi myned oddi cartref i'r ysgol, yr oedd ei ddyfodiad yn gaffaeliad mawr i'r achos. Wrth gytuno yn Cefngwyddgrug, gwnaeth yn amod fod i'r holl bregethwyr a ddeuai i Aberhosan i gael bwyd a lletty yno, a chyflogai am ddeg swllt y flwyddyn yn llai ar gyfer hyny. Daeth yr achos rhagddo yn llwyddianus yn ystod gweinidogaeth Mr. Evans, fel yr oedd golwg lewyrchus arno ar ei ymadawiad. Yn 1799, daeth Mr. Edward Francis i weinidogaethu i Fachynlleth, a gofalai yntau fel ei ragflaenor am y gangen yn Aberhosan. Yn 1807, daeth Mr. James Griffiths i Fachynlleth, ac yn y flwyddyn gyntaf wedi ei ddyfodiad y codwyd y capel. Yr oedd yr achos a fu yn y lle gan y Methodistiaid erbyn hyn wedi ei roddi i fyny, fel y cafodd yr Annibynwyr y maes yn gwbl iddynt eu hunain. Cafwyd tir i adeiladu yn rhodd gan Mr. G. Jones, Tygwyn. Dyddiad y weithred ydy w Gorphenaf 6ed, 1807, a'r ymddiriedolwyr gwreiddiol oeddynt John Evans, Cwmgwarchae; John Wood,

Ty'nyfedw; John David, Bryntudor; John Jones, Hugh Pugh, a David

  1. Dysgedydd, 1865. Tudul. 49.
  2. Annibynwr 1864. Tudal. 219.
  3. Ysgrif Mr. D. M. Jenkins
  4. Ysgrif Mr. Josiah Jones.