Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/338

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eillion yn Aberhosan symudodd yno; ond yn ystod y ddwy flynedd y bu yma yn llafurio, yr oedd yr eglwys wedi cynyddu i yn agos i 200 o rifedi. Byr fu tymor gweinidogaeth Mr. Jones yn Rhuthyn; canys bu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb yn mlodeu ei ddyddiau. Daw hanes y "gweinidog da yma i Iesu Grist" yn nglyn a Rhuthyn, lle y terfynodd ei weinidogaeth.

Wedi ymadawiad Mr. Jones, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Williams, Dinasmawddwy. Dechreuodd ei weinidogaeth yma yn nechreu y flwyddyn 1839, a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad Mehefin 14eg, yn yr un flwyddyn, pryd y gweinyddwyd gan Meistri T. Griffiths, Rhydlydan; C. Jones, Dolgellau; H. Lloyd, Towyn; R. Jones, Rhuthyn; E. Hughes, Treffynon; D. Price, Penybontfawr; H. Morgan, Samah; W. Roberts, Pennal; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Davies, Llanfair; M. Jones, Llanuwchllyn; ac E. Davies, Trawsfynydd. Bu Mr. Williams yn llafurio yn ddiwyd yma am yn agos i ddwy flynedd ar hugain; ac aeth yr achos rhagddo ar y cyfan yn llwyddianus. Talwyd y ddyled oedd yn aros ar yr hen gapel-cauwyd i fewn ddarn o dir yn ymyl y capel, yr hwn a gafwyd gan Mr. G. Jones, Tygwyn, i fod yn lle claddfa-a chynlluniwyd at gael capel newydd. Cafwyd y tir yn rhad am 999 o flynyddau, gan Mr. G. Jones, Cefngwyddgrug, mab y diweddar Mr. G. Jones, Tygwyn; ac ar y 29ain o Ionawr, 1859, torwyd y dywarchen gyntaf o dir y capel newydd gan Mr. Griffith Jones, unig fab Mr. G. Jones, Cefngwyddgrug, ac ŵyr Mr. G. Jones, Tygwyn. Costiodd y capel mewn arian, heblaw llafur yr ardalyddion, 725p., ac y mae yn un o gapeli harddaf y wlad; a dangosodd yr eglwys a'r gynnulleidfa haelioni mawr i dalu yr oll o'i ddyled. Trowyd yr hen gapel yn ysgoldy Brytanaidd at wasanaeth yr ardal. Yn fuan ar ol codi y capel newydd, oherwydd rhyw amgylchiadau, rhoddodd Mr. Williams yr eglwys yma i fyny; ond parhaodd i lafurio yn Penegos tra y daliodd ei iechyd; ac yn nglyn a'r eglwys yno y bydd ein cofnodiad bywgraphyddol o hono.

Yn nechreu y flwyddyn 1861, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. David Miles Jenkins, myfyriwr o Athrofa y Bala, ac urddwyd ef Mehefin 6ed a'r 7fed, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. J. Jones, Machynlleth. Holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Thomas, Meifod. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. M. Davies, Maesycwmwr. Pregethwyd siars y gweinidog gan Mr. E. C. Jenkins, Rhymni; a siars yr eglwys gan Mr. J. Williams, Castellnewydd; a gweinyddwyd hefyd gan Meistri W. Ambrose, Porthmadog; E. Williams, Dinas; T. Davies, Dolgellau ; ac I. Thomas, Towyn.

Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jenkins, codwyd ty newydd i'r gweinidog. Rhoddwyd y tir trwy garedigrwydd Mr. Lewis Lewis, Cefn'rhosan, wedi ei sicrhau yn eiddo i'r eglwys am fil o flynyddoedd; ac y mae rhan fawr o'i ddyled wedi ei thalu. Llafuriodd Mr. Jenkins yma hyd ddiwedd Medi 1866, pan y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys Gymreig yn y Drefnewydd.

Yn gynar yn y flwyddyn 1867, rhoddwyd galwad gan yr eglwys i Mr. John R. Roberts, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Gorphenaf 11eg a'r 12fed, 1867. Ar yr achlysur, pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. R. Jones, Llanidloes (ewythr y gweinidog ieuange). Holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Roberts, Conwy. Gweddiodd Mr. Josiah Jones, Machynlleth. Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. W.