Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/339

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Morgan, athraw yr Athrofa yn Nghaerfyrddin; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan ei diweddar weinidog, Mr. D. M. Jenkins, Drefnewydd. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri D. Oliver, Llanberis; O. Evans, Llanbrynmair; S. Edwards, Machynlleth; R. Thomas, Bangor; I. Thomas Towyn; a Mr. H. C. Williams, gweinidog y Bedyddwyr yn y Dylife; ac y mae Mr. Roberts yma yn parhau i lafurio. Nid yw yn debyg fod mwy nag un pregethwr wedi ei godi yma i bregethu, sef Mr. John Morgan, Caehaulog, yr hwn a fu yn bregethwr eymeradwy yma am dymor maith. Mae yma ddau bregethwr yn perthyn i'r eglwys yn awr, er mai nid yma y dechreuasant bregethu, sef Mr. John Hughes, Rhiwgam, a Mr. Edward Davies, Dolcaradog. Heblaw y personau a enwyd eisioes, bu yma gryn nifer o bobl dda yn nglyn a'r achos, y rhai y mae cu henwau yn berarogl yn yr ardal. David Davies, Bryntudor, oedd un o'r rhai cyntaf a dderbyniwyd yn Aberhosan pan y dechreuodd Mr. Griffith gadw cymundeb achlysurol yma, ac a fu trwy ei oes yn nodedig fel athraw deallgar a diacon gofalus. Yr hen Ddafydd Robert, o'r Gaethle, a Hugh Mathew, a fuont nodedig o ffyddlon, ac a gawsant fyw i weled dyddiau da; ac y mae yn dda genym fod hiliogaeth y rhai fu yn enwog gynt yn parhau i rodio llwybrau ffydd eu henafiaid; ac y mae yr Arglwydd yma mewn llawer engraifft yn llythyrenol yn cyflawni yr addewid -"Plant dy weision a barhant, a'u had a sicrheir ger dy fron di."


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Dylife
ar Wicipedia

DYLIFE.

Yn ddiweddar y ffurfiwyd Dylife yn blwyf. Mae y lle wedi dyfod yn lled boblog trwy agoriad gweithiau plwm ar y mynydd. Arferid pregethu yma er yn foreu gan weinidogion Machynlleth, Aberhosan, a Llanbrynmair; ond yn 1863 y corpholwyd yma eglwys fel cangen o Aberhosan a than ofal ei gweinidog. Nid oes yno gapel wedi ei godi, ond cyfarfyddant mewn pabell goed gyfleus iawn, yr hon a roddir at eu gwasanaeth gan gwmni gwaith plwm y Dylife. Mae yma gynnulleidfa gryno, a phobl ffyddlon dros ben. Griffith Wilson yw yr unig ddiacon yn y lle, ac y mae wedi bod yma er dechreuad yr achos, ac nis gellir canmol gormod ar ei ffyddlondeb; a gwyr y pregethwyr fu yn myned i'r Dylife o Machynlleth am garedigrwydd ac arabedd diarhebol ei wraig Mary Wilson, a'i pharodrwydd i ymgeleddu y rhai a ddelo heibio.


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Penegoes
ar Wicipedia

PENEGOS.

Ebenezer y gelwir y capel bychan sydd yma. Y mae o fewn dwy filldir i Fachynlleth. Dechreuwyd pregethu yma gan Mr. Morgan yn fuan wedi dechreu ei weinidogaeth yn y dref. Mewn anedd-dy o'r enw Coedcae y pregethid ar y dechreu; ond yn y flwyddyn 1824, codwyd yma gapel bychan. Bwriadwyd ef ar y cyntaf i gadw ysgol Sabbothol, a chynal cyfarfodydd gweddi, a phregethu achlysurol; ac felly y bu hyd adeg ymadawiad Mr. Morgan yn 1836, yna ymffurfiodd yr aelodau yn y lle yn eglwys Annibynol; ac unasant â'r eglwys yn Aberhosan i roddi galwad i Mr. Richard Jones, a bu yn gweinyddu iddynt nes yr ymadawodd i Rhuthyn. Cytunasant drachefn â'r eglwys yn Aberhosan i roddi galwad