i Mr. J. Williams, Dinas; ac er i Mr. Williams roddi i fyny ofal Aberhosan, parhaodd i ofalu am Penegos tra y gallodd; a phan y gorfodwyd ef gan waeledd i roddi i fyny ei ofal gweinidogaethol yma hefyd, etto parhaodd mewn cysylltiad a'r eglwys hyd ei ddiwedd. Wedi i Mr. Williams fethu, cymerodd Mr. Jones, Machynlleth, ofal yr eglwys, ac efe sydd yn parhau i fwrw golwg drosti. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ac nid oes dim nodedig wedi digwydd yn ei hanes; ond y mae yma nifer o frodyr a chwiorydd ffyddlon a heddychol, a mawr ofal calon ganddynt am achos yr Arglwydd. Nid ydym yn gwybod fod neb oddi yma wedi codi i bregethu, ac ni bu yr un pregethwr cynorthwyol hyd y deallasom yn perthyn iddi mewn unrhyw gyfnod yn ei hanes.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
JOHN WILLIAMS. Ganwyd Mr. Williams yn 1798, yn Pennal, ger Machynlleth. Dygwyd ef i fyny fel gwas amaethyddol, ac felly y treuliodd flynyddau boreu ei oes. Dychwelwyd ef dan weinidogaeth Mr. Morgan, Machynlleth, tua'r flwyddyn 1817, ac ymunodd â'r gangen fechan oedd dan ofal Mr. Morgan yn Pennal. Symudodd oddi yno i wasanaethu i Towyn, ac wedi hyny i Lanegryn, a thra yn aros yn y lle olaf y dechreuodd bregethu ar gais yr eglwys a'i gweinidog, Mr. Lloyd, Towyn. Bu rai blynyddau yn pregethu yn y wlad oddi amgylch gyda derbyniad mawr cyn ei fyned i'r ysgol ramadegol yn y Drefnewydd yn 1827. Arosodd yno ddwy flynedd, nes y derbyniodd alwad o Dinasmawddwy i fod yn olynydd i'r efengylaidd Mr. Hughes. Urddwyd ef Chwefror 19eg, 1829, a llafuriodd yno am ddeng mlynedd.
Yn 1839, derbyniodd wahoddiad eglwysi Aberhosan a Phenegos i ddyfod yn fugail arnynt. Trwy ryw amgylchiadau na waeth heb eu crybwyll, terfynodd ei gysylltiad ag Aberhosan tua'r flwyddyn 1860; ond parhaodd yn weinidog Penegos tra y gallodd. Yr oedd ei iechyd wedi gwaelu yn fawr; ac ysigodd ei gyfansoddiad, yr hwn oedd yn naturiol yn gryf, trwy yr amgylchiadau a'i cyfarfu, ac yn neillduol trwy farwolaeth ei unig blentyn. Ni bu y byd byth yr un peth iddo wedi iddo golli ei anwyl John. Derbyniwyd ef ar Drysorfa yr Hen Weinidogion, ond galwyd arno yn fuan i wlad nad oedd raid iddo wrth ei chynorthwy. Bu farw Medi 12fed, 1864, yn 66 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel Aberhosan, lle yr oedd wedi rhoddi ei fab i orwedd.
Yr oedd Mr. Williams o faintioli cyffredin, ac o wneuthuriad cadarn. Pan yn nghanol ei ddyddiau, yr oedd golwg gryf, iachus, wridcoch arno, a'i wallt yn ddu fel y frân; ond yn ei flynyddoedd olaf, yr oedd wedi cyfnewid yn ddirfawr. Yr oedd y gwrid wedi cilio o'i ruddiau, a'i wallt yn wyn ei liw. Yr oedd o dymer siriol, lawen, yn nodedig o garedig i ddynion ieuaingc, ac o ffyddlon i'w holl frodyr. Ni wyddai am ofn dyn, ac ni feddyliai am atal ei dafod pan y barnai ef y dylasai lefaru. Os rhoddai addewid cadwai ati, a lle y byddai ganddo ymrwymiad yno y ceid ef.
Gwnai aberth er mwyn yr hyn a farnai yn wirionedd, ac ni phetrusai am wg neb os meddyliai fod dyledswydd yn galw arno i gymeryd cyfeiriad neillduol. Diamheu yr arbedasid iddo lawer o'i ofidiau gweinidogaethol pe buasai yn fwy gochelgar ei ymadroddion; a theimlai rhai o'i wrandawyr fod rhai o'i saethau o'r pulpud weithiau yn cael eu cyfeirio atynt