ymgasglu i'r ty hwn ar y Sabbothau i chwareu ac ymddifyru gyda'r delyn. Ar un Sabbath daeth priodas yno, ac wedi blino chwareu aethant allan i roddi tro i ben bryn cyfagos; ac ar eu dychweliad, cawsant y lle wedi ei lyncu gan y ddaear, a llyn o ddwfr yn y lle; a Llynydelyn y gelwir y lle hyd heddyw.[1]
Wedi ymadawiad John Davies a Thy'nyplas, bu pregethu ac ysgol Sabbothol yn Bryncynfil, Llwyngwyn, a Chwmdwrgi; ond wedi dyfodiad Thomas Rowland i'r ardal yn y flwyddyn 1807, yr oedd ei dy ef, sef Byrdir, yn agored; ac yno y cyfarfyddid nes yr adeiladwyd Soar yn 1819. Hyd lease y capel yw 1,000 o flynyddoedd, am yr ardreth o heidden y flwyddyn. Aelodau o'r Graig, Machynlleth, oedd yr ychydig grefyddwyr oedd yma, a Mr. Morgan oedd eu gweinidog. Mae coffâd parchus yn cael ei wneyd am dri brawd oedd yn perthyn i'r achos yma yn ei gychwyniad, sef Edward Edwards, John Breese, a John Davies, ac nis gallesid cael cyfarfod cyfan heb fod y tri yno. Medrai un ganu, ond ni fedrai ddarllen na gweddio—medrai un arall ddarllen, ond nis gallai na chanu na gweddio—medrai y llall weddio, ond ni fedrai na chanu na darllen; ond pan y ceid y tri gyda'u gilydd, yr oedd yno ddigon o ddarllen, canu, a gweddio. Yr oedd dyfodiad Thomas Rowland i'r ardal yn gefn mawr i'r achos; a byddai ei wraig Elizabeth Rowland yn cymeryd rhan gyhoeddus yn y cyfarfodydd gweddio; ac ar Sarah Breese yn aml y disgynai dechreu y gân. Dwy chwaer nodedig am eu duwioldeb. O'r amser y codwyd y capel hyd y flwyddyn 1825, nid oedd ond pregethu achlysurol yn Soar; ond gwnaed yma lawer o ddaioni trwy hyny, a'r cyfarfodydd gweddi a'r ysgol Sabbothol; a bendithiwyd yr ardal â diwygiad grymus, fel yr oedd golwg lewyrchus ar bethau. Yr oedd Mr. David Pritchard, Ceniarth, yr hwn oedd mewn amgylchiadau bydol cysurus, yn aelod yn Machynlleth, ac yn brif gefn i'r achos yn Soar, gan fod ei drigfa gerllaw iddo. Yr oedd wedi dechreu pregethu er's rhai blynyddau; a chan ei fod yn ddyn cyfoethog, ac wedi cael addysg dda, ac wedi troi mewn cymdeithas uwchraddol, yr oedd ganddo ddylanwad mawr ar y rhai oedd o'i gylch. Tua y flwyddyn 1825, cyfododd anghydwelediad blin rhwng Mr. Pritchard a Mr. Morgan, ei weinidog, yr hyn a barodd deimladau chwerwon am lawer o flynyddau. Buasai yn dda genym fyned heibio i hyn heb ei grybwyll; ond nis gallwn hanesyddu yn gywir a myned heibio i ffeithiau pwysig yn nglyn ag eglwysi sydd yn dyfod i'n ffordd. Nid ein gwaith ni yw rhoddi ein barn ar ffeithiau, ond yn unig eu mynegu; ac os digwydd fod dau adroddiad o'r un amgylchiad ger ein bron, a'r adroddiadau yn anghytuno, nid oes genym ond eu gosod ger bron fel y maent. Mae adroddiad Mr. Morgan ei hun ger ein bron, ac y mae Mr. Edwards, Machynlleth, yn ei Fywgraffiad o Mr. Pritchard, yn Nysgedydd 1862, tudal. 205, yn gwneyd cyfeiriad cynil a boneddigaidd at y mater; a chan fod eiddo Mr. Edwards yn y ffeithiau gan mwyaf yr un ag adroddiad ysgrifenedig Mr. Morgan, cymerwn y dyfyniad a ganlyn o'r Bywgraffiad:—"O herwydd helaethder y weinidogaeth (sef Machynlleth a'r canghenau), daeth i feddwl rhai brodyr mai buddiol fyddai rhanu y weinidogaeth, er mwyn gwell trefn ac adeiladaeth mwy; a phenderfynwyd ar Mr. Pritchard fel y cymhwysaf i amlygu hyny. Ond edrychid ar ranu y frenhiniaeth yn deyrnfradwriaeth
o'r fath waethaf; a chan mai efe a ddygodd y mater i sylw, edrychid arno
- ↑ Llythyr Mr. S. Edwards, Machynlleth.