Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/343

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel y troseddwr mwyaf. Pan welodd ei gydgynygwyr fod hyn yn dwyn drygfyd, ciliasant, gan ei adael ef a'r gynnulleidfa y perthynai iddi yn unig yn yr helbul a ddechreuasant hwy yn benaf. * * * * Ond o herwydd ei ymlyniad ef a'r gynnulleidfa yn Soar wrth y drefn Annibynol, yn ol eu golygiad hwy, aethant yn rhy annibynol yn ngolwg y fam eglwys, a diarddelwyd hwy fel rhai afreolaidd, nid yn gymaint oherwydd yr ystyrid eu cais yn anfuddiol, ac nad oedd ganddynt hawl iddo, ond oblegid na ofynent am hyny yn rheolaidd. Yn awr, nid oedd gan Mr. Pritchard a'i gyfeillion yn y cyfwng hwn ddim i'w wneyd ond syrthio dan eu bai, neu fyned yn mlaen eu hunain; ond edifarhau nis gallent, oblegid ni chydnabyddent fai, a rhwyfo yn mlaen oedd anhawdd, oblegid nid oedd neb gyda hwynt, a llawer yn eu herbyn. Am hyny, neillduwyd ef (Mr. P.) gan yr eglwys yn Soar i fod yn fugail iddynt, a bu am flynyddoedd yn llafurio yn eu plith gyda gofal a diwydrwydd mawr, a chariad ac undeb yn ffynu yn eu mysg." Felly, o'r flwyddyn 1825 hyd ddechreu 1837, Mr. Pritchard oedd y gweinidog yn Soar, a gweinyddai holl ordinhadau y ty; ond ni chydnabyddid ef fel gweinidog rheolaidd ond gan ychydig. Parodd yr amgylchiad lawer o drallod yn y cyfnod hwnw y tu allan i gylch gweinidogaeth Machynlleth. Anfonai Mr. Pritchard ei gyhoeddiad weithiau i siroedd eraill; ond ychydig o weinidogion a roddent dderbyniad iddo, a'r rhai a wnelent hyny, a dynent arnynt anfoddlonrwydd y lluaws. Galwyd Dr. Arthur Jones i gyfrif yn Nghymanfa Llanrwst am agor ei bulpud iddo a gwrthwynebai llawer i Mr. Pritchard, yr hwn a ddaethai yno gyda Dr. Jones i gael aros yn y gynhadledd. Mae yn dda genym gael cyfle i ddyweyd yn y fan yma cyn myned yn mhellach i'r drwg deimlad rhwng Mr. Pritchard a Mr. Morgan gael ei symud cyn eu marwolaeth, a diau genym fob pob un o'r ddau wrth adfeddwl yn gweled eu bod wedi gwneyd pethau na wnaethent drachefn pe cawsent fyned eilwaith trwy yr un amgylchiadau.

Yn nechreu 1837, rhoddodd Mr. Pritchard ei weinidogaeth i fyny yn Soar, a daeth ef a'r eglwys dan ei ofal i undeb a'r eglwys yn Machynlleth; a phan yn 1839, y daeth Mr. Edwards i Fachynlleth, cymerodd hefyd ofal Soar, ac efe sydd yn parhau i'w bugeilio; ac y mae golwg siriol ar yr achos pan gofiom mai gwlad deneu wasgaredig ei phoblogaeth ydyw. Bu Mr. a Mrs. Pritchard yn aelodau ffyddlon yn Soar hyd eu diwedd oddigerth ryw ddeng mlynedd a dreuliasant yn y brifddinas. Gadawodd Mrs. Pritchard log 100p. tuag at yr achos yn Soar; ac nid oedd hono ond un o lawer o weithredoedd da y wraig rinweddol hon.

Yn Soar y dechreuodd Mr. Richard Rowlands, Henryd, bregethu, er mai aelod yn Machynlleth ydoedd; ac yr oedd Mr. Pritchard wedi dechreu pregethu pan yn aelod yn Machynlleth yn mhell cyn corffoliad yr eglwys yn Soar.

Am hanes a chymeriad Mr. Pritchard, rhaid i ni grynhoi y cwbl a wyddom am dano i gylch bychan. Ganwyd ef yn 1790, mewn palasdy o'r enw Ceniarth, yn Uwchgareg, Machynlleth. Yr oedd yn ddisgynydd o deulu a fu yn trigianu yn Ceniarth yn ddigoll er dyddiau William y Gorchfygwr. Efe oedd y cyntaf o'r teulu a drodd allan yn Ymneillduwr. Denwyd ef i foddion gras i ddechreu, wrth glywed son am ryw fachgen icuangc oedd yn nodedig fel gweddiwr, a chafodd y fath flas arnynt nes penderfynu eu mynychu; ac o'r diwedd ymunodd â'r crefyddwyr tlolion, a derbyniwyd ef yn aelod yn Machynlleth. Dechreuodd weithio â'i holl