egni gyda holl ranau y gwaith, yn enwedig gyda'r ysgol Sabbothol; a
chafodd ar ei feddwl bregethu. Nid oedd yn meddu hylithrwydd dawn;
ond yr oedd y cwbl a ddywedai yn ddoeth a synwyrol. Yr oedd yn dŷn
iawn dros y peth a gredai, fel yr oedd ei anhyblygrwydd yn ei wneyd yn
wrthwynebwr peryglus. Er fod ei holl berthynasau yn Eglwyswyr cryfion, yr oedd ef yn Ymneillduwr penderfynol, ac ni phetrusai ddatgan ei
olygiadau. Meddai wybodaeth eang ar byngciau cyffredinol, yn wladol a
chrefyddol; ac yr oedd yn nodedig o awyddus i gynorthwyo yr egwan a'r
dinerth. Y farn gyffredinol am dano unwaith ydoedd, nad oedd dim cydymdeimlad rhyngddo â'r weinidogaeth fel swydd, ac yn neillduol â chynhaliaeth y weinidogaeth; ond y mae y rhai a gawsant y fantais oreu i
gyfeillachu âg ef yn synied yn hollol wahanol am dano, a'i fod bob amser
yn barod â'i law a'i logell i gynorthwyo cynhaliad y weinidogaeth. Daliodd yn ei deimlad Cymreig er symud i'r brifddinas; ac yr oedd yn ei
ddyddiau olaf yn ymddangos yn dwyshau yn ei deimlad; a bu farw yn
gyflawn o'r dyddanwch sydd yn Nghrist, Rhagfyr 29ain, 1859, yn 69 oed.
GLASBWLL.
Saif y capel hwn oddeutu dwy filldir a haner i'r de-orllewin o dref Machynlleth, ar y terfyn rhwng De a Gogledd. Bu pregethu achlysurol yn moreu y ganrif hon gan yr Annibynwyr yn Ty'nypwll, Maesycilin, Llechweddeinion, a Nantysebon; ond tua y flwyddyn 1806, cafwyd hyny yn fwy rheolaidd. Y mae yn ymddangos mai Rees Davies a bregethodd gyntaf yn yr ardal, mewn ty o'r enw Ty'nypwll. Yr oedd y pryd hwnw yn cadw ysgol mewn amaethdy o'r enw Glanymerin. Bu teulu Glanymerin yn garedig iawn i'r achos yn ei wendid; ond nid ymunodd yr un o honynt â chrefydd hyd yn ddiweddar. O gylch yr amser yma y daeth John Davies i fyw i Maesycilin, William Meredith i Alltddu, Thomas Pugh i Cwmrhaiadr-bach, John Evans i Garthgwynion, John Davies (y pregethwr) i'r Castell, a Thomas Jones i Nantysebon. Yr oedd y gwyr hyn yn cael eu cyfrif yn gawri yn y dyddiau hyny, ac y mae eu hiliogaeth yn ffyddlon gyda'r achos hyd y dydd hwn.[1]
Tua'r flwyddyn 1810, cafwyd yma dy bychan i bregethu ynddo yn ochr sir Aberteifi; oblegid yn y sir hono y mae y llecyn a elwir Glasbwll. Y Capel bach y gelwid ef, ac felly yr ydoedd; ac erbyn hyn, nid oes careg o hono yn aros. Adeiladwyd y capel presenol yn 1821, ar ddarn o dir a roddwyd gan etifeddes Cae'rsaer, wedi hyny priod Mr. Thomas Lewis, yr hwn a fu yn brif gefn i'r achos yma yn ei amgylchiadau allanol am flynyddau, ac yr oedd yn gwir ofalu drosto. Y mae y capel yma yn sir Drefaldwyn, ond o fewn can' llath i'r lle y safai y capel bach. Ni chaed ac ni ofynwyd am bryd-les i'r capel yma, ond y mae hir-feddiant didal wedi ei wneyd yn eiddo y gynnulleidfa yn y lle. Pregethid yn y lle y blynyddau hyny gan Mr. Morgan a'r pregethwyr oeddynt yn gynorthwyol iddo. Coffeir gydag anwyldeb am ffyddlondeb Betty Pugh, Cwmrhaiadrbach, Sian y Castell, a Wosley, Llechweddeinion. Cyrchent i Fachynlleth i'r gyfeillach, er fod ganddynt bedair neu bum milidir o ffordd. Yn y gauaf rhoddai Betty Pugh y plant yn y gwely cyn cychwyn, ac ymddiriedai hwy i ofal Rhagluniaeth, ac ni ddigwyddodd niwed i un o honynt; a chafodd
- ↑ Llythyr Mr. S. Edwards, Machynlleth.