ebe Rees Davies, ac ychwanegai, "Mrs. Jones, yr wyf yn disgwyl y cenwch chwi gyda ni yn fuan." Ac felly fu, ymunodd a'r achos a bu yn ffyddlon hyd angau. Yn fuan wedi hyny ymunodd William Jones, Caeathgen, a hwynt, yr hwn a fu yn ffyddlon a llettygar hyd derfyn ei oes, a Morris Davies, Talyrnau, hon wr gonest a ddaliodd ati hyd y diwedd, a Richard Rowlands a'i wraig, toddedig a theimladol yn wastad wrth wrando yr efengyl, a'i Amen gynes a siriolai galon y pregethwr; Rowland James oedd un o'r ffyddloniaid cyntaf, ac a dynodd ei gwys i'r terfyn yn gymhwys; John James, ei fab, a fu yn ddefnyddiol yn ei dymor; James Davies, un o flaenffrwyth yr achos yn Drwsynant, dyn diwyd, gweithgar, a symudwyd gan angau yn nghanol ei ddisgwyliadau a'i obeithion; John Anthony oedd nodedig am ei haelioni, ac a fu o gynorthwy mawr i'r achos. Mae lluaws o hiliogaeth yr hen bererinion hyn yn glynu wrth Dduw eu tadau er eu bod wedi eu gwasgaru i Gymru, Lloegr, ac America. Cafwyd llawer o gyfarfodydd llewyrchus yn Nrwsynant, ac er mor gyffredin oedd y lle, ymgeleddwyd yno lawer o eneidiau. Pregethwyd yno gan weinidogion enwocaf Cymru yn yr ugain mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol. Codwyd Ysgol Sabbothol yn nhy Richard Rowlands, i lawr wrth y bont; a bu yno am beth amser, yna symudwyd i Gaeathgen, a chynhelid hi yn y ty, ac ar dywydd teg yn yr haf, yn yr ysgubor; a phregethid weithiau yn y ddau le gan Humphrey Jones, Nathin. Teimlid gwir angen am gapel, ond yr anhawsder oedd cael tir i adeiladu arno. Yn y cyfamser, yr oedd ystad Dolcorslwyn yn cael ei gwerthu, a phrynodd Mr. John Jones, Masnachydd yn Machynlleth, yr hwn oedd yn Annibynwr, gae bychan with y pentref, mewn lle cyfleus i godi capel. Trwy ddylanwad Mr. Hughes, o'r Dinas, a Mr. Morgan, Machynlleth, cafwyd lle gan Mr. Jones, a gwnaed pryd-lês am y tir am ddeng mil o flynyddoedd i godi arno gapel ac ystabl; am yr ardreth blynyddol o pepper corn, os gofynid am dani, ond hyd yma nid oes neb wedi gofyn am dani. Gosodwyd y capel i Mr. Jones i'w wneyd am 100p., yn 10 llath wrth 7, ond yr ardalwyr yn ymgymeryd a chludo y defnyddiau. Ni fwriedid cael oriel ynddo ar y dechreu, ond dangosodd y bobl awydd mawr am ei chael, a gosododd Mr. Hughes hi allan i Mr. Rowland Evans, Dinas, am 60p. Yr oedd y capel erbyn ei orphen, heb gyfrif cario y defnyddiau ato, yn llawn werth 200p. Agorwyd ef yn mis Mehefin, 1819, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Lewis, Bala; M. Jones, Llanuwchllyn; W. Jones, Trawsfynydd; C. Jones, Dolgelleu; J. Roberts, Llanbrynmair; a D. Morgan, Machynlleth. Enwodd Mr. Morgan y capel yn SAMMAH "Yr Arglwydd sydd yno." Trwy lafur ac ymdrech Mr. Hughes, yr oedd y capel wedi talu am dano cyn ei orphen; a bu yr hen weinidog parchus yma yn llafurus a llwyddianus hyd derfyn ei oes; Rhagfyr 21ain, 1826. Yn mhen ychydig gyda blwyddyn wedi hyny rhoddwyd galwad i Mr. Hugh Morgan, yr hwn oedd yn aelod gwreiddiol o'r eglwys; a fuasai am dymor dan addysg yn Athrofa Neuaddlwyd, ond oedd ar y pryd hwnw yn cadw ysgol yn y Dinas. Y mae yn deilwng o'i gofnodi, fod yr hen weinidog Mr. Hughes, yn meddwl i Mr. Morgan fod yn olynydd iddo yn SAMMAH, a'i fod yn disgwyl cael byw i weled hyny. Yr oedd Mr. Morgan wedi bod yn aros am rai misoedd yn Rhoslan, a Capelhelyg, pan yr oedd ei gyfaill, Mr. Rowlands, oddicartref yn casglu, ac yn nechreu Rhagfyr, 1826, derbyniodd lythyr yn ei wahodd yno eilwaith. Deallodd beth oedd eu hamcan, ac wrth gychwyn gyda'i gyfaill, Mr. Hugh Hughes, Foel,
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/347
Gwedd