Edwards, Cwmderwen, a'i wraig, a Hugh Sychnant, a'i wraig, a Susan o'r Myrddyn Llwyd, y rhai cyntaf o'r gymydogaeth a ymunodd a'r eglwys yn Llanbrynmair. Cyrchent yno bob wythnos yr holl ffordd i'r gyfeillach, a chyn ymadael wrth y Ddolgaregwen, cydymgryment gyda'u gilydd i weddio. Yn Nolgaregwen y pregethodd Mr. John Breese, wedi hyny o Liverpool, ei bregeth gyntaf. Yr oedd ar y pryd yn was yn Cwmcarnedd, ac yn gweithio yn Prisgwyneyll. Mae yma rai etto yn ei gofio, yn ei glocs a'i smockfrock, yn pregethu y noson hono. Pregethwyd llawer yn Cannon, Ffrwdfawr, a Phenffriddnewydd, cyn codi y capel. Adeiladwyd capel Beulah yn 1822, ar ddarn o dir ar etifeddiaeth Wynnstay; a thalwyd am dano trwy ffyddlondeb yr ardalwyr, a'r cymhorth a gafwyd gan y fam eglwys yn Llanbrynmair; ac wedi codi capel Llanbrynmair, cymerwyd areithfa yr hen gapel, y bwrdd, a pheth o'i ddodrefn eraill, i Beulah, ac y maent yno hyd y dydd heddyw. Prif ategwyr yr achos yma yn ei gychwyniad, ac am flynyddoedd wedi hyny, oeddynt deuluoedd Cwmderwen, Cannon, Bryngwyn, Penffriddnewydd, Hafod, Sychnant, Dolau, a'r Ffriddfawr; ac y mae hiliogaeth rhai o honynt yn parhau yn y lle, ac yn ffyddlon i'r achos.[1]
Bu Beulah mewn cysylltiad gweinidogaethol â Llanbrynmair hyd fynediad Mr. Samuel Roberts i America yn 1858. Er hyny ni bu yno weinidog sefydlog; ond gofelir am y lle yn benaf yn awr gan Mr. Evans, Llanbrynmair, a Mr. Evans, Foel, fel y ddau gymydog agosaf. Rhifa y gynnulleidfa tua 130 yn gyffredin, ac y mae o leiaf haner y nifer hwnw yn aelodau. Maent yn nodedig o ffyddlon i ddyfod i'r moddion, os na bydd hi yn dywydd afresymol i neb fyned o'i dy; ac y mae yn anhawdd cael cynnulleidfa o wrandawyr mwy astud; ac y mae ynddi nifer o ddynion deallus yn mhethau yr efengyl. Sonir ganddynt am adgyweirio yr hen gapel, neu adeiladu un newydd, ac y mae mawr angen am hyny.[2]
BWLCHYFFRIDD.
Aberhafesp y gelwid yr achos yma gynt, am mai mewn gwahanol fanau yn mhlwyf Aberhafesp y cyfarfyddid; ond pan godwyd y capel, galwyd ef Bwlchyffridd. Saif o fewn pedair milldir i'r Drefnewydd, ar ddarn o dir sydd yn cysylltu dau ddyffryn prydferth, sef dyffryn Hafren, yr hwn a red i fyny i Gaersws, a dyffryn Creginog, yr hwn sydd yn rhedeg i fyny at Creginog Hall, palas Arglwydd Sudley. Ymddengys fod pregethu yn mhlwyf Aberhafesp er yn foreu iawn. Nid yw yr Ysgafell lle y preswyliai Mr. Henry Williams ond tua phedair milldir oddi yma, a phregethodd ef a'i gyd-lafurwyr lawer yn yr holl wlad oddi amgylch yma. Yn nyddiau Meistri Lewis Rees a Richard Tibbott, yr oedd llawer o aelodau Llanbrynmair yn preswylio yn y plwyf hwn, a chyfarfyddent a'u gilydd i gynal cyfeillachau crefyddol, a deuai eu gweinidogion yn fynych i bregethu iddynt. Pan oedd Mr. Evan Roberts, tad Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, yn byw yn mhlwyf Mochdre, at y gangen oedd yn Aberhafesp y deuai i'r cyfeillachau crefyddol, er mai aelod yn Llanbrynmair ydoedd. Fel y crybwyllasom eisioes, yr oedd yn Llanbrynmair y pryd hwn nifer o Fedyddwyr yn aelodau; ac ymddengys mai y Bedyddwyr oedd luosocaf yn y