gangen yn Aberhafesp, oblegid mae yn debyg eu bod yn fwy dan ddylanwad gweinidogion y Bedyddwyr yn y Dolau a'r Pentre, ac yn mwynhau mwy o'u gweinidogaeth. Adeiladodd y Bedyddwyr gapel heb fod yn nepell oddi yma, lle y maent yn ymgynnull etto; ac o hyny allan, parhaodd yr Annibynwyr i ymgynnull o dy i dy, gan gyfrif eu hunain yn aelodau yn Llanbrynmair, a deuai gweinidogion Llanbrynmair i bregethu iddynt.
Nis gallwn gael allan i sicrwydd pa bryd y ffurfiwyd y gangen yn Aberhafesp yn eglwys Annibynol. Er fod y cyfamod eglwysig a dynwyd allan ganddynt yn awr ger ein bron, ac enwau yr aelodau cyntaf wedi eu cadw yn ddiogel; ond yn anffodus, nid oes dyddiad i'r cyfamod. Yn ol pob peth a allwn gasglu, yr oedd rywbryd wedi 1780, a chyn dechreu gweinidogaeth Mr. J. Roberts. Y mae un o hen aelodau yr eglwys, Mr. Charles Benbow, yn cofio yn dda am ymweliadau Mr. Tibbott â'r ardal i bregethu. Pregethai yn aml ar y maesydd, ac yn unrhyw dy y rhoddid derbyniad iddo, nes o'r diwedd y dechreuwyd cynal moddion yn sefydlog yn Brynygroes, tyddyndy bychan rhwng Bwlchyffridd a Llanwnog. Yn fuan wedi hyny, agorodd Mr. Richard Lewis, Gareglwyd, ei dy, yr hwn oedd yn lle helaeth a chyfleus, a chafodd yr achos gartref yma dros lawer o flynyddau. Yr oedd Mr. Lewis, Gareglwyd, yn amaethwr cyfrifol, ac yn berchen ar amryw ffermydd yn y gymydogaeth, a bu o gynorthwy mawr i'r eglwys; ac y mae wyrion iddo yn glynu gyda'r achos yn y lle hyd y dydd hwn. Y mae yn debyg mai yn y Gareglwyd y corpholwyd yr eglwys, tua'r flwyddyn 1790, fel y gallwn farnu oddiwrth y gwahanol adroddiadau a roddir. Dyma y cyfamod ar yr hwn y cytunasant:
"Y Cyfamod Eglwysig y cytunwyd arno gan y Gymdeithas o Ymneillduwyr Protestanaidd yn Aberhafesp."
"Yr ydym yn cyfamodi yn ngwydd Duw â'n gilydd, yn enw Duw, a thrwy gymhorth yr Ysbryd Glan, y bydd i ni, fel aelodau o Grist, mewn undeb â'n gilydd, arddel ein hunain yn galonog ac yn ffyddlon yn ddisgyblion i Grist, ac na fydd arnom gywilydd o hono Ef na'i achos, ond ymdrechu yn wrol o blaid y ffydd a draddodwyd unwaith i'r saint; ac y bydd i ni ymarfer â'r ordinhadau y mae wedi osod yn ei dy yn gydwybodol, a rhodio yn ol y rheol y mae wedi osod i ni yn ei air gyda diwydrwydd.
1. Mewn perthynas i bynciau ein ffydd, yr ydym yn credu yr athrawiaethau sydd yn gynwysedig yn Nghatecism y Gymanfa yn Westminster.
2. Yr ydym yn cyfamodi ac yn addaw, trwy gymhorth yr Ysbryd Glan, y bydd i ni ymdrechu yn erbyn pob pechod, a phob achlysur ag y gall ein harwain i bechod; ac ymarferyd yn ddiwyd ac yn barhaus â phob moddion i wybod ewyllys Duw, ac i ymdrechu a'n holl galon i'w wasanaethu.
3. Yr ydym yn cyfamodi ac yn addaw, yn enw Crist, y bydd i ni, yn ddiwyd ac yn barhaus, ymarferyd â phob moddion y mae Duw wedi gorchymyn yn ei air, yn gyhoeddus ac yn ymneillduol, sef gweddio, darllen, a gwrando y gair, a chymuno, er adeiladu ein hunain â'n gilydd mewn gras a sancteiddrwydd.
4. Yr ydym yn ymgyfamodi ac yn addaw y bydd i ni yn ewyllysgar ymostwng i ddisgyblaeth a cherydd ty Dduw, yn ol gorchymyn Crist; ac y bydd i ni ymdrechu, pob un yn ei briodol sefyllfa, mor belled ag y gallwn, i gynal ac i arferyd y fath ddisgyblaeth tuag at droseddwyr ag sydd yn gyson â gair Duw, ac yn angenrheidiol tuag at ei ogoniant ac anrhydedd ei achos yn y byd.
5. Yr ydym hefyd yn cyfamodi ac yn addaw, os byddwn un amser yn bwriadu myned i sefyllfa newydd yn y byd ag y gall fod o bwys, neu mewn rhyw gyfyng: der, neu anwybodaeth mewn perthynas i lwybr ein' dyledswydd, na bydd i ni wneuthur dim yn fyrbwyll ac anystyriol: ond taer weddio ar Dduw am gyfarwyddyd, ac ymgynghori yn syml â'n cyfeillion crefyddol.