Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/354

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynt. Wrth weled yr achos yn cryfhau, anogodd Mr. Roberts yr eglwys yma a'r eglwys yn Penarth i uno a'u gilydd i gael gweinidog cydrhyngddynt; a sefydlasant ar Mr. James Davies, myfyriwr o Athrofa Wrecsam, ac urddwyd ef yma Ebrill 18fed, 1811. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Dr. G. Lewis, Llanuwchllyn; Dr. Jenkin Lewis, Wrecsam; Dr. T. Phillips, Neuaddlwyd; a Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; J. Griffiths, Machynlleth; D. Williams, Llanwrtyd; a W. Hughes, Dinasmawddwy. Llafuriodd Mr. Davies yma yn ffyddlon a chyda mesur o lwyddiant. Derbyniwyd ganddo lawer o aelodau i'r eglwys, ac yn eu plith ddau a fu yn hynod o ddefnyddiol gyda'r achos, sef John James a George Morgan. Mae eu henwau yn parhau yn berarogl yn yr ardal. Arosodd Mr. Davies yma tua saith mlynedd, ac yna ymfudodd i America.[1]

Yn 1821, symudwyd yr Athrofa o Lanfyllin i'r Drefnewydd, a daeth Dr. George Lewis i fod yn weinidog yn y dref a Bwlchyffridd, yn gystal ag i fod yn athraw yr Athrofa. Rhoddwyd galwad i'w fab yn nghyfraith, Mr. Edward Davies, yr hwn oedd yn athraw cynorthwyol, i fod hefyd yn gyd-weinidog a Dr. Lewis; ac urddwyd ef yn Bwlchyffridd Ionawr 24ain, 1822. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Whitridge, Croesoswallt. Derbyniwyd cyffes y gweinidog gan Dr. G. Lewis. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Weaver, Amwythig. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Williams, Wern; ac i'r eglwys gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair. Bu Mr. Davies, gyda chynorthwy y myfyrwyr, yn gofalu am yr eglwys hyd y flwyddyn 1835, pan y rhoddodd i fyny ei gofal, gan gyfyngu ei lafur i'r Drefnewydd, ac i'w ddyledswyddau fel athraw yr Athrofa. Yn y flwyddyn hono, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Davies, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Gorphenaf 8fed a'r 9fed, 1835. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr. T. Morgan, Trallwm. Gofynwyd yr holiadau arferol gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. Davies, Drefnewydd. Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. James Davies, Llanfair; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Morgans, Machynlleth. Bu Mr. Davies yma yn gweinidogaethu am rai blynyddau yn dra derbyniol; ond am y tair blynedd diweddaf nid oedd pethau mor gysurus; ac yn y flwyddyn 1843, rhoddodd yr eglwys i fyny; ond y mae etto yn byw yn y gymydogaeth, ac yn pregethu lle y gelwir am ei wasanaeth.

Yn 1845, rhoddwyd galwad i Mr. John Morris, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ond genedigol o Ffestiniog, ac urddwyd ef yma; ond ni bu tymor ei arosiad ef ond byr. Yr oedd yr achos drwy yr holl amgylchiadau a'i cyfarfu yn dal ei dir ac yn casglu nerth, fel yr oedd y capel wedi myned yn rhy fychan i'r gynnulleidfa, heblaw ei fod yn adfeiliedig. Penderfynwyd ei dynu i lawr, ac adeiladu un helaethach, a dechreuwyd arno o ddifrif. Agorwyd ef Mehefin 21ain a'r 22ain, 1848. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri L. Roberts, Sarnau; H. Morgan, Sammah; S. Roberts, a J. Roberts, Llanbrynmair; J. Thomas, Amwythig; ac A. Francis, Wrecsam. Cyhoeddwyd y capel newydd yn rhydd o ddyled ddydd ei agoriad. Gweithiodd y gymydogaeth a'i holl egni i gael yr amcan i ben; a dywedai pawb oedd yno, er yr holl bregethau da a gafwyd, mai y bregeth fwyaf effeithiol oedd pregeth fer Mr. Benbow, pan ddywedodd, The chapel is free." Yr un flwyddyn ag yr agorwyd y capel newydd,

  1. MSS Mr. D. Morgan.