Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/364

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SARNAU.

Capel Sarnau (A)

Saif y capel hwn yn mhlwyf Meifod, ond y mae rhan o'r fynwent yn mhlwyf Gygigfa, ar y goror rhwng Cymru a Lloegr yn ngwaelod y sir. Mae yr eglwys yn awr wedi ymuno a chyfundeb Seisnig sir Amwythig, fel y mae amryw eglwysi eraill ar y terfynau. Dechreuwyd pregethu yma gan yr Annibynwyr tua'r flwyddyn 1780, gan Mr. J. Griffith, yn ystod y tymor byr yr arhosodd yn Llanfyllin. Wedi priodi, bu Mr. Griffith yn byw heb fod yn mhell iawn o'r Sarnau; ac un Miss Meredith o'r gymydogaeth hon oedd ei wraig gyntaf. Pregethodd Mr. Griffith lawer yma ar hyd y maesydd ac mewn tai anedd, ac ymgynnullai tyrfaoedd lluosog i'w wrando. Adroddir un hanesyn nodedig am Mr. Griffith, yr hwn a gymerodd le yn yr ardal hon, a'r hwn a ddengys mor dra awyddus ydoedd am achub eneidiau. Yr oedd wedi dyfod yma i bregethu mewn amaethdy ar un prydnawn Sabboth, a gofynodd i wr y ty am gael myned o'r neilldu i ystafell am ychydig. Dangoswyd iddo ystafell i fyned iddi; ond wrth ei weled yn hir heb ddychwelyd, a'r gynnulleidfa wedi dyfod yn nghyd yn lluosog, dechreuodd gwr y ty anesmwytho, ac anfonodd forwyn i alw arno, gan ei bod yn amser dechreu yr oedfa. Aeth y llances, ond erbyn ei bod wrth y drws, clywai Mr. Griffith yn dyweyd yn uchel"nid äf oni ddeui gyda mi." Brysiodd y ferch yn ol, a dywedodd wrth ei meistr fod yno ryw un gyda'r pregethwr. "Does dim fath beth," ebe ei meistr; ond y llances a daerodd mai felly yr oedd, ac ychwanegodd "ond chlywais i e yn dyweyd, nad ä e ddim heb i'r llall ddod gydag ef." "Gad iddo ynte," ebe ei meistr, "fe ddaw y ddau cyn hir." Daeth Mr. Griffith allan o'r ystafell yn fuan, a chafwyd prawf cyn diwedd yr oedfa nad yn unig y daeth, ond fod y gwr y bu mewn ymdrech am ei gael wedi dyfod gydag ef. Dwy flynedd yr arhosodd Mr. Griffith yn Llanfyllin; ond yn yr yspaid hwnw, mwynhaodd ardal y Sarnau gryn lawer o'i weinidogaeth; ac nid ofer fu ei lafur yno. Nis gallasom gael allan a gorpholwyd yma eglwys gan Mr. Griffith—yr ydym yn tueddu i feddwl na wnaed—ond y cyfrifai yr aelodau oedd yma eu hunain yn perthyn i Lanfyllin a'r Pantmawr. Ymddengys mai pan y sefydlwyd eglwysi Annibynol yn y Sarnau a'r Trallwm, yr hyn a gymerodd le agos yn gyfamserol, y gwelwyd yn ddiangenrhaid cynal addoliad a gweinyddu yr ordinhadau gyda'r un rheoleiddiwch yn y Pantmawr ag y gwneid cyn hyny. Bu yno gymuno ar ol hyn, fel y cawn weled etto, ond nid gyda'r un cysondeb ag o'r blaen. Y mae yr hen fwrdd cymundeb oedd yn y Pantmawr yn awr yn nghapel y Sarnau. Y mae gan yr hen fwrdd hwn ei hanes. Wrtho safodd Vavasor Powell, Henry Williams, Ambrose Mostyn, James Owen, Rees Prothero, William Jervice, John Griffith, ac eraill yn olynol am fwy na chant a haner o flynyddau; a chafwyd wrtho lawer gwledd felus y cofir am dani yn y nefoedd. Ond i ddychwelyd at gychwyniad yr achos yn y Sarnau. Yn ysgrifeniadau anghyhoeddedig Mr. Morga, Llanfyllin, dywedir ei fod ef (Mr. M.), mewn ymddyddan ag un o aelodau hynaf y lle, ddeng mlynedd ar hugain yn ol, wedi gofyn pwy oedd yr Ymneillduwyr a bregethodd gyntaf yn yr ardal, attebodd yr hen wr mai y myfyrwyr o Groesoswallt a arferai ddyfod yma, a bod yr athraw, Dr. Edward Williams, wedi pregethu yn y lle amryw weithiau. Mae hyn yn eithaf cyson â'r hyn a ddywedasom eisioes am ddechreuad yr achos gan Mr. Griffith; oblegid yr un