Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/365

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flwyddyn ag yr ymadawodd Mr. Griffith o Lanfyllin y symudwyd yr Athrofa o Abergaveny i Groesoswallt. Ar ol sefydliad Mr. Jenkin Lewis yn Llanfyllin yn 1785, yr ydym yn cael ei enw ef yn fynych yn nglyn â bedyddiadau a chladdedigaethau yn Sarnau hyd 1793.

Medi 19eg, 1785, cawn yn llawysgrif Mr. Jenkin Lewis, Llanfyllin, gofrestriad o fedydd Mary, merch Edward Ashley, yn mhlwyf Gygigfa, yr hon a fedyddiwyd, a'r cofnod hynaf sydd ar gael yma o'r rhai a fedyddiwyd ganddo.

Medi 12fed, 1790, cawn ef yn bedyddio Thomas, plentyn i John Davies, Gilfach, dilledydd wrth ei alwedigaeth. Y tystion o'r gweinyddiad oeddynt John Williams, aelod yn y Sarnau, a William Hughes, o'r Llidiart Fechan, Pantmawr; ac fel gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanfyllin y mae Mr. Lewis yn arwyddo ei enw. Parodd symudiad yr Athrofa i Wrecsam yn 1792 amddifadrwydd mawr am weinidogaeth yma, gan nad oedd nifer y gweinidogion ond ychydig. Ond daeth Mr. David Richards, Ty'nyfawnog, yr hwn oedd yn bregethwr parchus yn Mhenarth, i'r lle o gylch yr amser y collwyd gwasanaeth y myfyrwyr, neu yn fuan wedi hyny; ac urddwyd ef yn weinidog yma, a bu o wasanaeth mawr i'r achos am ddeuddeng mlynedd. Mae dyddiad dyfodiad Mr. Richards i'r lle, ei urddiad, a'i farwolaeth yn mysg y lluaws pethau gwerthfawr o'r fath sydd wedi myned i ddifancoll; ond y mae agos yn sicr i'w farwolaeth gymeryd lle cyn y flwyddyn 1810; oblegid yn y flwyddyn hono yr ydym yn cael Mr. Daniel Davies, myfyriwr o Athrofa Gwrecsam, yn derbyn galwad gan yr eglwys, ac yn ymsefydlu yn y lle. Ac yr oedd un gwr ieuangc o'r enw Mr. Morris wedi bod yma am chwe mis cyn dyfodiad Mr. Davies ar ol marwolaeth Mr. D. Richards; ond bu y gwr ieuangc hwnw farw yn fuan o'r darfodedigaeth. Bu Mr. Davies yma yn pregethu am un mlynedd-arddeg, ac yna symudodd i Woolerton, sir Amwythig, lle y treuliodd weddill ei oes. Wedi ymadawiad Mr. Davies, daeth Mr. James Peregrine yma yn 1821 o Bishop Castle. Yr oedd yn weinidog yma mewn cysylltiad â Domgay. Nid oedd teimlad yr eglwys yn unol gyda golwg arno, ac ymadawodd nifer o'r aelodau; ond ni arosodd Mr. Peregrine yma ond hyd 1824, pan yr ymadawodd i America; ac yn fuan wedi ei ymadawiad, dych welodd y rhai a aethant allan. Y flwyddyn ganlynol i ymadawiad Mr. Peregrine, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Rees, myfyriwr o Athrofa y Drefnewydd. Urddwyd ef Mai 17eg, 1825. Traddodwyd y gyn-araeth gan Mr. E. Davies, athraw yr Athrofa yn y Drefnewydd. Holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Pearce, Wrecsam. Gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. G. Ryan, Trallwm. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Stewart, Liverpool; ac i'r eglwys gan Mr. W. Williams, Wern. Yr oedd amryw weinidogion eraill yn bresenol, ac yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth y cyfarfod. Bu Mr. Rees yma yn gymeradwy a defnyddiol dros amryw flynyddau; ond yn 1832, symudodd i Cholfort, yn sir Gaerloyw. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1835, rhoddwyd galwad i Mr. David Arthur Owen, myfyriwr o Athrofa y Drefnewydd; ac urddwyd ef Mehefin 15fed, 1835, pryd y gweinyddwyd gan Mr. T. Morgan, Trallwm; W. Roaf, Elsmere; T. W. Jenkin, Croesoswallt; J. Jones, Bromley; D. Morgan, Machynlleth; D. Price, Penybontfawr; T. Jones, Minsterlay, ac eraill. Bu Mr. Owen yma yn dderbyniol a llwyddianus, hyd nes yn 1838 y symudodd i Smethwick, gerllaw Birmingham. Y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd galwad i Mr. John Mark Evans, myfyriwr o Athrofa Hackney, Llundain, a mab i Mr. Evans,