Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/370

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odd ar ei weinidogaeth yn mis Mai y flwyddyn hono; ac er hyny hyd yr awr hon y mae wedi llafurio yma gyda pharch a chymeradwyaeth mawr. Adgyweiriwyd y capel yn 1845, trwy draul o 30p., ond erbyn 1858 barnwyd y dylesid tynu yr hen dŷ i lawr, ac adeiladu un gwell a helaethach, yr hyn a wnaed trwy draul o 180p., heb gyfrif y llafur a roddwyd yn rhad; ac y mae yr holl ddyled wedi ei thalu. Nid ydym yn cael fod ond dau bregethwr wedi codi yma, sef Edward Davies, yr hwn a ddaw dan ein sylw yn nglyn a Smyrna; a Thomas Morgan sydd yn awr yn bregethwr cynorthwyol yn Nghroesoswallt. Mae yma lawer o bersonau ffyddlawn a chywir wedi bod yn nglyn a'r achos heblaw y rhai y coffawyd am danynt eisioes; ac er nas gallwn ni gofnodi eu henwau yma, y mae eu cymeriadau yn sail dda i gasglu fod eu henwau wedi eu hysgrifenu yn y nefoedd.

LLANSANTFFRAID.

Pa mor bell yr effeithiodd gweinidogaeth nerthol pregethwyr y cyfnod cyntaf ar Lansantffraid-yn-Mechain, nid oes genym un wybodaeth. Os dygwyd rhai o'r trigolion dan ddylanwad yr efengyl, nid oes yr un prawf o hyny wedi ei adael ar gof a chadw i ni. Cawn fod rhai yn mhlwyf Llanfechain yn glynu wrth yr Arglwydd. Cyfarfyddent yn nhai Arthur Chidlaw a Richard Trollus, ac yr oeddynt o 50 i 60 o rifedi. Yr ydym wedi cael enw Arthur Chidlaw eisioes yn un o'r rhai a adeiladasant gapel Llanfyllin; ac yr ydym yn cael enw Richard Trellus yn mysg y rhai a garcharwyd yn y Trallwm o achos enw yr Arglwydd Iesu. Nid oes gan yr Annibynwyr yr un achos yn Llanfechain yn awr, ac nid ydym yn cael fod un cynyg wedi ei wneyd ganddynt i bregethu yma, er pan rwystrwyd Mr. Robert Jones, Llanfyllin, i bregethu yn yr awyr agored gerllaw Pontydreflan.

Yn 1805, daeth Miss Mary Ann Jones, i Lansantffraid, i gadw siop, mewn tŷ a adeiladasid iddi. Yr oedd hi er's mwy na deng mlynedd cyn ei dyfodiad yma yn aelod yn Llanfyllin, ac wedi symud yma ymunodd a'r cyfeillion a gyfarfyddent yn Aethnen a Phenygroes; ond mynodd hefyd drwyddedu ei thŷ newydd yn Llansantffraid yn lle i bregethu; a phregethwyd y bregeth gyntaf ynddo gan ei brawd, Mr. Robert Jones, Llanfyllin. Parhawyd i gynal moddion crefyddol yn y siop newydd am flynyddau, a phregethid yma fynychaf gan weinidog Penygroes, dan ofal yr hwn yn benaf yr oedd y lle. Bu Miss Jones yn gefn mawr i'r achos am flynyddau, ac wedi iddi briodi a Mr. Richard Tibbott, parhaodd y ddau yn eu gofal am achos y Gwaredwr yma hyd nes y symudasant i Lanfyllin. yn 1819. Cymerodd Mr. David Jones, brawd Mrs. Tibbott, y siop ganddynt ar eu symudiad i Lanfyllin; a chymaint oedd pryder y chwaer dduwiol am yr achos, fel y mynai rwymo ei brawd trwy gytundeb i gadw cartref iddo. Ond ni fynai Mr. David Jones ei rwymo felly, ac nid oedd achos chwaith, canys yr oedd ei galon yntau yn gwir ofalu am achos yr Arglwydd, fel y cadwyd y pregethu yn rheolaidd fel o'r blaen. Gwnaed llawer cynyg am gael tir i adeiladu capel, ond yn aflwyddianus, am fod yr holl dirfeddianwyr yn dra gelynol i Ymneillduaeth ac Ymneillduwyr. Yn 1826, prynodd Mr. Jones faes gerllaw y Dreflan, a thalodd am dano lawer mwy na'i werth—oblegid fod yno eraill yn cynyg yn ei erbyn yn yr