Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/373

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wlad, ac er yr holl elw a ddygai iddo, penderfynodd wneyd aberth o'r cwbl, gan daflu ei holl enaid o blaid y gymdeithas y gwelai y fath gymhwysder ynddi at angen y wlad. Arwyddodd yr ardystiad—cododd Ddirwest—ty ar adfail yr hen fragdy, a pharhaodd hyd ei fedd yn bleidiwr gwresog i lwyr ymataliad. Teithiodd lawer i gyfarfodydd, gwyliau, a chymanfaoedd dirwestol; ac nid ystyrid y byddai yr un o honynt yn llawn heb "JONES LLANSANTFFRAID " ynddynt. Tynodd arno ei hun ŵg ei hen gyfeillion—cefnent ar ei fasnachdy, ac anfonai y cwsmeriaid goreu a feddai ato am eu biliau, gan na fyddai dim a fynent mwy ag ef. Fel y gallesid disgwyl, yr oedd y pethau hyn yn effeithio arno; ac un noson pan oedd yn myned i'r capel, a'i feddwl yn llawn trallod, dywedodd wrth un o'i ferched bach oedd yn myned yn ei law, "Wel, ai tybed i mi wneuthur peth o'i le? y mae pawb yn troi yn ein herbyn.' Ond edrychodd ei ferch yn ei wyneb, a dywedodd, "O naddo Os yw Duw trosom pwy a all fod i'n herbyn?" Teimlodd y fath rym gyda'r gair fel na phetrusodd ei feddwl mwy. Ychydig cyn marw dywedodd wrth Mr. James, Llansantffraid, "Nid yw yn edifar genyf mewn un modd i mi wneyd yr hyn a wnaethum er pleidio Dirwest; yr wyf yn credu i mi wneyd yn fy lle. Pe cawn eto ail ddechreu, gwnawn yr un peth ag a wnaethum drosodd drachefn." Wedi dechreu areithio ar Ddirwest gloywodd ei ddawn, a daeth ei dalentau yn fwy i'r golwg; ac anogwyd ef gan ei gyfeillion crefyddol i ddechreu pregethu. Cydsyniodd o'r diwedd a'u cais, a phregethodd ei bregeth gyntaf yn Llangynog, Rhagfyr 2il, 1838, sef ei ddydd genedigaeth, yn 41 oed. Ei destyn ydoedd Ioan xiv. 9, "A ydwyf cyhyd o amser gyda chwi ac nid adnabuost fi, Phillip?" a pharhaodd i bregethu gyda derbyniad a chymeradwyaeth mawr tra y daliodd ei iechyd. Pregethai yn fywiog a thanllyd, ac yn aml gyda theimladau dwysion. Nid amcanai at bethau mawrion a dyfnion, ond byddai bob amser yn syml ac ymarferol. Byddai yn dra sicr o gael gafael ar feddwl ei destyn, yr hwn a esboniai yn fyr ac yn eglur. Byddai ei raniadau yn naturiol, ei sylwadau yn darawiadol a goleu, a'i gymhwysiadau yn ddifrifol ac i'r pwrpas. Yr oedd yn ffraethlym ei ddawn, ac yn nodedig am adrodd ryw hanesyn yn effeithiol. Ond byr fu ei dymor. Cafodd godwm oddiar ei geffyl wrth fyned i gyfarfod yn y Trallwm yn 1846, ac ni wellhaodd oddiwrth effeithiau y codwm, a'r dychryn a gafodd. Yr oedd wedi colli y rhan fwyaf o'i wallt, ac am yr ychydig oedd yn aros yr oedd cyn wyned a'r llin, a'i ysgwyddau llydain yn culhau, a'i war yn graddol grymu tua'r ddaear. Ni phregethodd ar ol nos Sabboth, Tachwedd 8fed, 1846; ac yn Llanrhaiadr y pregethodd ddiweddaf. Yn Ngwanwyn 1848, gwaethygodd yn fawr, a chyfyngwyd ef i'w dŷ. Dyoddefodd ei gystudd yn amyneddgar, a mwynhaodd yn helaeth o ddiddanwch yr Efengyl. Pan yn yr afon troai ei briod ymaith gan ddyweyd, heb feddwl ei fod ef yn sylwi, "Wel, wel, nid oes gan neb ddim help i wneyd iddo yn awr." Ond cipiodd y gair, ac a llais gwan bloesg dywedai, "Oes, y mae Iesu etto." Bu farw am ddau o'r gloch Sabboth, Awst 6ed, 1848, yn 50 oed. Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol, yn nghapel Bethesda, yn ol ei ddymuniad, o dan y bwrdd wrth ba un yr arferai gofio angau y groes.[1] Heddwch i'w weddillion marwol; ac na phalled i "David Jones, Llansantffraid," mwy nag i Jonadab mab Rechab, ŵr i sefyll gerbron Duw yn dragywydd.

  1. Cafwyd y rhan fwyaf o'r hanes uchod o Gofiant Mr. D. Jones, gan Mr. H. James; ac o Ysgrifau Cyffin yn Nghronicl Undeb Ysgolion Sabbothol Dosbarth Llanfyllin.