Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/374

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLANSILIN.

Mae siroedd Maldwyn, Dinbych, a'r Amwythig yn cydgyfarfod yma; ond y mae eglwys Annibynol y lle wedi bod o'r dechreuad yn nglyn â chyfundeb sir Drefaldwyn. Tua'r flwyddyn 1807, y mae genym yr hanes cyntaf am ddechreuad pregethu yma gan yr Annibynwyr. Yn nhy Hugh Jones, Ty'nllan y pregethwyd gyntaf, a'r tebygolrwydd yw mai Mr. D. Richards, Sarnau, oedd y pregethwr. Miriam, gwraig Ty'nllan, oedd fwyaf awyddus am groesawu y pregethwyr. Symudodd y teulu o Ty'nllan i le o'r enw Workhouse, a llwyddodd Miriam i gael gan ei gwr ganiatau pregethu yno drachefn. Un tro, yr oedd Mr. Robert Roberts, Llanuwchllyn, yma yn pregethu, a'r gynnulleidfa yn aflonydd a therfysglyd, o'r diwedd dywedodd, "Byddwch ddistaw, da gyfeillion, gael i mi gael dyweyd gair wrthych am y ffordd i gadw enaid rhag angeu, bydd llon'd fy ngenau i o bridd yn fuan." Cafodd lonydd ar hyny. Bu cyfeillachau crefyddol yn cael eu cynal yn y Priddbwll; a thua'r flwyddyn 1810, dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol yn Melinyglasgoed, ac yr oedd Edward Davies, y Felin; Robert Roberts, o'r Priddbwllmawr; a Richard Hughes, Hafodty, yn mysg yr athrawon cyntaf. Symudwyd yr Ysgol yn mhen tua dwy flynedd i Pyllaumeirch; ac wedi bod yno am dymor byr, symudwyd hi drachefn i Wern Llyffeint. Yn y flwyddyn 1815, prynodd Edward Williams, Llansilin; R. Roberts; ac R Hughes, dai a gardd, gan un Dafydd Jones, Crydd, yr hwn a breswyliai yn un o'r tai, am 220p. Gelwid y tai yr "Henstent." Ni wyddai Dafydd Jones wrth werthu y tai a'r ardd y bwriedid codi capel arno, a phan ddeallodd hyny ffromodd yn aruthr, ac nid gweddaidd iawn oedd yr iaith a ddefnyddiai; ac nid llawer gwell ei foes a'i iaith oedd yr offeiriad hefyd o'i bulpud. Ond yr oedd yn rhy ddiweddar, yr oedd y tir wedi ei sicrhau. Trwy anhawsderau mawrion yr aed yn mlaen—gomeddwyd hwy o gerig at adeiladu o un man yn y plwyf; fel y bu raid cario priddfeini o ymyl Croesoswallt ato. Y fath drafferth a gafodd Ymneillduaeth i gael lle i roddi ei throed i lawr mewn llawer plwyf yn Nghymru. Yn 1816, gwerthwyd y capel a'r tai i saith o ymddiriedolwyr, am 340p., ac o'r adeg yma y gellir dyddio dechreuad yr achos yn Llansilin. Gweinidogion Penygroes a ofalent am yr achos yn benaf hyd ymadawiad Mr. Ridge, yn 1824; ond am rai blynyddau ar ol hyny ymddibynai ar gynorthwy gweinidogion a phregethwyr dyeithr. Yn 1831, rhoddwyd galwad i Mr. John Williams, Ffestiniog; a chynhaliwyd cyfarfod i'w sefydlu, Tachwedd 3ydd, a'r 4ydd, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri H. Pugh, Llandrillo; D. Price, Penybontfawr; E. Davies, Smyrna; T. W. Jenkyn, Croesoswallt; a W. Williams, o'r Wern. Isel oedd yr achos ar ddyfodiad Mr. Williams, ond yn fuan lluosogodd y gynnulleidfa, ac ychwanegwyd rhai at yr eglwys. Penderfynwyd cael capel newydd, a chodwyd capel da, yn mesur 33 troedfedd wrth 27 troedfedd; ac aeth y draul yn 180p., ac agorwyd ef Rhagfyr 23ain a'r 24ain 1832. Llafuriodd Mr. Williams yma nes y symudodd i America, yn nechreu 1840. Yr un flwyddyn rhoddwyd galwad i Mr. Howes, yr hwn oedd ychydig cyn hyny wedi ei urddo yn Llansantffraid, a bu yma hyd ddiwedd 1840, pan y symudodd i Fachynlleth. Yn Mai, 1842, daeth Mr. H. James yma i weinidogaethu mewn cysylltiad a Llansantffraid a Phenygroes, a than ei ofal bugeiliol ef