Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/375

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y lle yn parhau. Er fod dyled drom ar y lle pan ymadawodd Mr. Williams i America, etto yn nhymor gweinidogaeth Mr. James talwyd y cwbl. Yn niwedd y flwyddyn 1870, adgyweiriwyd a helaethwyd y capel trwy draul o fwy na 170p., ac y mae mwy na'r haner eisioes wedi ei dalu.

Codwyd i bregethu yma Richard Davies, yr hwn sydd yn aros yn bregethwr cymeradwy yn y lle; a Thomas Griffiths, yr hwn a urddwyd yn Rhydlydan, yn 1838, ac sydd yn awr yn Wigan.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOHN WILLIAMS. Ganwyd ef Mawrth 17eg, 1791, yn mhlwyf Llandilofawr, sir Gaerfyrddin. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nghapel Isaac, gan Mr. Daniel Jones, Crygybar, yn 1810. Dechreuodd bregethu yn 1815, ac yn 1818 aeth i'r ysgol i Neuaddlwyd, lle yr arosodd fwy na dwy flynedd. Cafodd alwad o Bethania, Ffestiniog, ac urddwyd ef yno Mai 3lain, 1821. Llafuriodd yno yn ddiwyd am 10 mlynedd. Casglodd tra yno gan' gini yn Llundain at dalu dyled capel Bethania, a gwelodd ef yn rhydd o ddyled, ac wedi ei helaethu. Symudodd i Lansilin yn nechreu 1831, a'r flwyddyn ganlynol cymerodd ofal Penygroes hefyd; a bu yno hyd ddechreu 1840, pan yr ymfudodd i America. Sefydlodd yno yn gyntaf yn swydd Indiana, yn agos i Ebensburgh, Pensylvania, lle yr arhosodd am wyth mlynedd. Oddiyno symudodd i Palmyra, Ohio, lle y llafuriodd am naw mlynedd; ac oddiyno drachefn i Harrison, yn yr un dalaeth, lle y bu am y chwech neu y saith mlynedd olaf o'i oes. Claddodd ei wraig yn 1863, ac yn fuan wedi hyny symudodd at ei ferch yn agos i Newark; ac yno y bu farw, Hydref 6ed, 1865.[1]

Yr oedd Mr. Williams yn ddyn da, ond o duedd gwynfanus, ac yn dueddol i edrych ar yr ochr dywyll i bob peth. Gwedd felly fyddai ar ei bregethau, ond yr oedd ei lais yn dyner a thoddedig. Profodd ymfudo yn fanteisiol iddo yn ei amgylchiadau bydol; a bu yn llawn mor ddefnyddiol yno, ag y gallesid disgwyl iddo fod yn y wlad hon. Bu yn pregethu yr efengyl am fwy na haner can' mlynedd, a disgynodd i'r bedd heb golli ei goron.

SMYRNA.

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llanblodwel. Mae yr ardal yn myned dan wahanol enwau, ond Smyrna y gelwir y capel. Ymddengys fod pregethu achlysurol wedi bod yn y gymydogaeth yma gan yr Annibynwyr er y flwyddyn 1818. Bu pregethu yn nhy un John Morris, y White Horse, ac wedi hyny yn Tydraw, ac ar ol hyny yn nhy Edward Rees. Yn mhlith y pregethwyr cyntaf a ddeuent yma, yr oedd Meistri E. Davies, Cutiau; Lewis Pugh; Rowland Roberts, o'r Bala; a'r myfyrwyr oedd y pryd hwnw yn yr athrofa yn Llanfyllin. Aelodau yn Mhenygroes oedd cyfeillion oedd yn byw yn yr ardal yma; ac yn 1825, ar ol i Mr. J. Ridge ymadael a'r ardal a myned i'r Bala, penderfynasant ymffurfio yn eglwys An-

  1. Cenhadwr Americanaidd, Ebrill, 1869.