nibynol yn nhy Edward Rees; a chymerodd Mr. Edward Davies, Cutiau, yr hwn oedd erbyn hyn wedi dyfod i fyw i Dreflach, eu gofal. Nid oedd nifer yr eglwys ar ei ffurfiad ond pedwar-ar-ddeg; ond glynasant yn ffyddlon wrth yr achos er lleied oeddynt. Pregethid yn rheolaidd bob nos Sabboth yn
Nantmawr hyd nes y codwyd capel Smyrna, yn 1830. Codwyd ef gan Mr. William Tannat, y Graig, gan yr hwn yr oedd prydles ar y fan, a gosodwyd ef i'r eglwys dan ardreth o 2p. yn y flwyddyn; ond yr eglwys yn y lle a aeth i'r draul o'i drefnu oddifewn. Agorwyd ef Ebrill 24ain, 1831, trwy i Mr. E. Davies, gweinidog y lle, bregethu ynddo am y waith gyntaf. Y Sabboth canlynol dechreuwyd Ysgol Sabbothol ynddo; ac ar y 9fed a'r 10fed o Fehefin, cynhaliwyd cyfarfod agoriadol mwy cyhoeddus, pryd y pregethodd Meistri J. Morris, Llanfyllin; M. Hughes, Llanwddyn; C. Jones, Llanfyllin; J. Rees, Sarnau; W. Morris, Llanfyllin; R. Jones, Llanfyllin; D. Price, Penybontfawr; a J. Griffiths, Blodwel. Llafuriodd Mr. Davies yma yn ddiwyd nes y tarawyd ef gan ergyd o'r parlys, yr hyn a'i hanalluogodd i gyflawni ei weinidogaeth. Bu Mr. J. Williams, Llansilin yn ei gynorthwyo dros dymor trwy ddyfod ymai gadw cymundeb; ond pan urddwyd Mr. J. Howes yn Llansantffraid, yn Mai, 1839, cymerodd hefyd ofal yr eglwys hon, a pharhaodd yn weinidog iddi hyd Mehefin y flwyddyn ganlynol. Yn niwedd yr haf hwnw, daeth Mr. Robert Thomas, o Lanrwst—ond a fuasai am dymor yn yr Ysgol yn Marton—yma, ac urddwyd ef yn Nghroesoswallt, Tachwedd 26ain, 1840, i fod yn weinidog i'r eglwys yno, a'r eglwysi yn Smyrna a Bethel. Parhaodd Mr. Thomas yn weinidog yma am yn agos i ddeunaw mlynedd, hyd Mai, 1858, pan y symudodd i'r Rhyl, sir Fflint. Yn nechreu Ionawr, 1863, daeth Mr. James Bowen, yma, yr hwn a urddasid yn weinidog yn Llansanan, sir Ddinbych; ac efe yw y gweinidog presenol. Mae y lle ar y goror rhwng Cymru a Lloegr, ac y mae yr iaith Gymraeg yn colli tir yma yn gyflym. Mae yr eglwys wedi ymuno eisioes a chyfundeb Seisnig sir Amwythig; ac ofer fyddai disgwyl gwneyd daioni i'r genedl sydd yn codi, ond trwy bregethu iddynt yn yr iaith a ddeallir ganddynt.
Mae Mr. Bowen a'r eglwys yn llwyr fwriadu codi capel newydd, ac wedi sicrhau darn o dir at hyny; ac y mae ganddynt yn barod swm da o arian wedi ei ddiogelu i'r perwyl. Maent yn ymddangos yn teimlo pwysigrwydd y sefyllfa drawsnewidiol y maent ynddi, ac yn gwneyd eu goreu i ddarparu ar gyfer hyny.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
EDWARD DAVIES. Ganwyd ef yn Melin Penybont, plwyf Llanblodwel, sir Amwythig, yn y flwyddyn 1786. Eglwyswyr oedd ei rieni, fel y cyfrifid y rhan fwyaf yn y dyddiau hyny. Ymunodd a'r achos yn Mhenygroes yn fuan wedi ei gychwyniad. Yr oedd ei frawd, Thomas Davies, wedi ei dderbyn ychydig o'i flaen ef. Dechreuodd bregethu yn 1808, pan yn ddwy-ar-hugain oed; a phregethodd lawer, yn nhy John Davies, Penygroes, ac yn yr Aethnen, dau dy oedd wedi eu trwyddedu i bregethu. Pregethodd lawer yn Llansilin a Phenygroes, a'r amgylchoedd, yn mhell cyn fod capeli wedi eu codi yn un o'r lleoedd hyn. In 1811, priododd â Miss Jane Jones, Allt Tafolog, yn agos i Ddinasmawddwy; ac ymddengys iddo fod yno yn byw dros ysbaid, oblegid Edward Davies, yr Allt, y