Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/377

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gelwid ef. Urddwyd ef yn weinidog yn y Cutiau, a Llanelltyd, yn 1818, a llafuriodd yma am rai blynyddau, hyd 1822, pan y symudodd i Coed Treflach, gerllaw Croesoswallt, i gadw siop, ac i drin tyddyn bychan yno; a dechreuodd yn ddioed bregethu yn Nantmawr, ac yn y Sychtyn, a ffurfiwyd yno eglwys, ac o dan ei ofal ef y bu hyd nes yr analluogwyd ef gan ergyd o'r parlys i gyflawni ei weinidogaeth. Bu fyw rai blynyddoedd ar ol cael yr ergyd; ond ni bu yn alluog i bregethu nac i fyned ond ychydig oddiwrth ei dŷ; a bu farw Tachwedd 14eg, 1843, yn 57 oed; a chladdwyd ef yn mynwent Llanblodwel, lle y gorweddai ei wraig gyntaf, yr hon a fu farw Mawrth 29ain, 1827, a'i rieni, a'i frawd, Thomas Davies, o'r Felin. Dyn bychan, crwn, a thrwyn byr, oedd Mr. Davies. Yr oedd yn barchus a chymeradwy fel pregethwr, er nad oedd dim yn nodedig ynddo i beri ei fod yn enwog a phoblogaidd. Llafuriodd yn ddiwyd tra y gallodd, a hyny yn ngwyneb llawer o ddigalondid, ond gwelodd yr achos wedi sirioli yn fawr cyn ei farwolaeth.

BETHEL.

Mae hanes Bethel yr un yn ei ddechreuad ag achos Smyrna. Dwy gangen o'r un cyff ydynt. Yn 1837, sicrhawyd darn o dir yr ochr ddwyreiniol i drefddegwm Sychtyn, i godi capel arno. Cafwyd y tir gan Edward Rees, am chwe' phunt a chwe' swllt. Sylfaenwyd y capel yn mis Mehefin, 1838, ac agorwyd ef Tachwedd 5ed a'r 6ed, yn yr un flwyddyn. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Morris, Main; J. Jones, Forden; J. Howes, Bangor; S. Davies, Ruabon; S. Roberts, Llanbrynmair; J. Griffiths, Blodwel; W. Morris, Llanfyllin, yr hwn a enwodd y capel yn Bethel; a D. Price, Penybontfawr. Costiodd 117p., heblaw llafur rhad yr ardalyddion. Ffurfiwyd eglwys yma yn Mawrth, 1840; cytunwyd ar hyny yn rheolaidd mewn cyfarfod eglwysig yn Smyrna, Mawrth 12 fed, a chorpholwyd yma eglwys gynwysedig o bedwar-ar-ddeg o bersonau. hyny hyd yn awr, y mae Bethel a Smyrna wedi bod dan ofal yr un gweinidogion, ac felly y maent yn bresenol dan ofal Mr. Bowen. Nid yw yr iaith Gymraeg wedi colli llawn cymaint o dir yn ardal Sychtyn ag y mae yn ardal Nantmawr; ond gweithio yn mlaen y mae y Saesonaeg yma hefyd, fel y mae y gwasanaeth yn rhwym o gael ei gario yn mlaen yn y ddwy iaith, neu i'r efengyl golli ei gafael ar yr oes sydd yn codi.


CROESOSWALLT.

Er mai yn sir Amwythig y mae y dref, etto y mae yr achos Cymreig yma o'i gychwyniad wedi bod mewn cysylltiad a chyfundeb sir Drefaldwyn, fel mai yn nglyn a'r sir hon y mae yn fwyaf priodol i ni roddi ei hanes. Yn y flwyddyn 1836, ymneillduodd ychydig gyfeillion oddiwrth y Saeson i ddechreu achos Cymreig; a chymerasant ystafell i'r perwyl gerllaw y White Lion, yn Willow Street. Yr oedd un John Edwards, pregethwr cynorthwyol o'u nifer, ac efe a bregethodd y bregeth gyntaf iddynt, Awst 7fed, 1836; ac ar yr 17eg o Fedi, 1837, ffurfiwyd yno eglwys gan Mr. John Morris, Main, cynwysedig o 15 o aelodau. Mae tri o'r aelodau cyntaf yn aros yn yr eglwys etto, sef Thomas Griffiths;