Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/378

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Evan Davies; a Mrs. Askin. Tybiai rhai o'r cyfeillion fod John Edwards a'i lygad ar gael ei ordeinio yma; ac iddo, pan welodd nad oedd gobaith am hyny, gilio yn ol at y Saeson. Bu y gweinidogion a'r pregethwyr cylchynol yn dirion iawn o'r achos yn ei wendid, a deuent yma yn ffyddlon, er mai ychydig a allai yr eglwys roddi o gydnabyddiaeth iddynt. Cymerodd Mr. J. Howes, Llansantffraid, ofal yr eglwys, yn 1839; a chynhaliwyd cyfarfod i'w gydnabod yn weinidog yma, Hydref 10fed a'r 11eg, o'r flwyddyn hono; ond ni bu yma ond hyd Gorphenaf y flwyddyn ganlynol, pan y rhoddodd yr eglwys hon, a Smyrna, a Bethel, i fyny, ac y cymerodd at Lansilin, a Phenygroes, gyda Llansantffraid. Yn nechreu 1840, symudwyd yr achos i ystafell uwchben cegin berthynol i'r Red Lion, gerllaw y Town Hall; a byddai trwst y glanhau yn y gegin odditanodd yn aml yn aflonyddu yr addoliad.

addoliad. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Howes, rhoddodd yr eglwys yma—mewn cysylltiad a Smyrna a Bethelalwad i Mr. Robert Thomas, o Lanrwst, yr hwn a fuasai am dymor dan addysg gyda Mr. Jones, Marton; ac urddwyd ef yn nghapel yr Annibynwyr Saesonaeg, Tachwedd 26ain, 1840. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Morgan, Llanfyllin. Holwyd y gofyniadau gan Mr. H. Davies, Llangollen. Dyrchafwyd yr urdd—weddi gan Mr. D. Griffiths, Ruabon. Pregethodd Mr. L. Everett, Llanrwst, i'r gweinidog; a Mr. D. Price, Penybontfawr, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri J. Morris, Main; A. Francis, Drefnewydd; T. Griffiths, Rhydlydan; D. Jones, Llansantffraid; J. Thomas, myfyriwr, Marton, (Liverpool yn awr), ac eraill. Nid oedd nifer yr aelodau pan ddechreuodd Mr. Thomas ei weinidogaeth ond 24; a thri swllt a chwe' cheiniog yr wythnos oedd y cwbl a allasai yr eglwys addaw iddo. Cynyddodd yr achos yn gyflym, rhoddwyd i'r gweinidog yn fuan bum' swllt yr wythnos; ac erbyn Rhagfyr, 1842, yr oeddynt mewn sefyllfa i allu rhoddi deg swllt yr wythnos; a threfnwyd i gael dwy bregeth yn y dref bob yn ail Sabboth. Pobl ieuaingc oedd yr aelodau agos oll, ac oblegid hyny nid oedd yma swyddogion wedi eu dewis yn rheolaidd ar ddechreuad gweinidogaeth Mr. Thomas; ond yn 1841, dewiswyd John Askin, ac Edward Roberts, yn ddiaconiaid, ac y maent yn aros hyd yr awr hon; a'u plant yn dilyn llwybrau eu tad

Erbyn 1842, yr oedd yr hen ystafell yn orlawn, a meddyliwyd o ddifrif am gael capel newydd. Gan nad oedd yr aelodau oll ond gweiniaid, daeth Mr. D. Jones, Llansantffraid, yn mlaen i'w cynorthwyo. Prynwyd y tir gan Mr. James Vaughan, yr hwn hefyd a adeiladodd y capel. Costiodd y tir a'r capel 400p. Dyddiad y weithred ydyw Awst 15fed, 1842, a'r ymddiriedolwyr oeddynt Robert Thomas, Croesoswallt; David Price, Rhos; James Davies, Llanfair; John Jones, Penllys; Samuel Roberts, Llanbrynmair; Aaron Francis, Drefnewydd gweinidogion yr efengyl; ac Allen Emerson Evans, Charles Jones, David Jones, John Byner, a John Jones. Pregethwyd y bregeth gyntaf ynddo y Sabboth cyn y Pasg, 1843, gan Mr. D. Jones, Llansantffraid, oddiar y geiriau "Na wnewch dy fy nhad I yn dy marchnad;" a'r Sabboth canlynol (Pasg 1843), cynhaliwyd cyfarfod ei agoriad, pan y pregethodd Meistri W. Rees, Dinbych; S. Roberts, Llanbrynmair; D. Price, Rhos; D. Morgan, Llanfyllin; H. James, Llansantffraid; E. Thomas, Llanrwst; D. Jones, Llansantffraid; ac R. Davies, Llansilin. Bu ffyddlondeb mawr yn mysg y cyfeillion i gyfranu a chasglu at y capel newydd, fel erbyn diwedd yr agoriad, yr oedd 74p. wedi dyfod i law, yr