Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/379

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn—yn nghyd a chymunrodd o 44p. oddiwrth Mr. Davies, tad-yn-nghyfraith Mr. J. Vaughan, Builder—a dynodd y ddyled i lawr dan 300p. Cafwyd cynorthwy o Lanbrynmair, Llansantffraid, a Llansilin, a daeth Mr. S. Roberts i'r dref, a chasglodd 20p. yn mysg y Saeson. Rhifedi yr eglwys ar ei mynediad i'r capel newydd oedd 55 o bobl ieuaingc, symudol gan mwyaf; ond aeth yr achos rhagddo yn siriol am y tair blynedd cyntaf yn y capel newydd. Yn haf 1846, cymerodd camddealltwriaeth le rhwng rhyw bersonau yn yr eglwys; ac o ddiffyg doethineb a phwyll, parodd hyny gryn niwed i'r achos. Ciliodd amryw o'r aelodau, a lleihaodd y gwrandawyr, fel mai llawn gwaith i'r eglwys oedd cynal yr achos a thalu llog y ddyled. Yn y flwyddyn 1850, gwnaed ymdrech i dalu cyfran o'r ddyled, ac aeth Mr. Thomas trwy sir Drefaldwyn i gasglu. Dyma y flwyddyn y daeth Mr. Joseph Evans i'r dref, a bu ei ddyfodiad yn gynorthwy mawr i'r achos; ac o hyny allan ni adawyd llonydd i'r ddyled nes ei llwyr ddileu. Yn nechreu 1857, codwyd cyflog y gweinidog i 15s. yn yr wythnos, a chael dwy bregeth bob Sabboth. Bu Mr. Thomas yma hyd Mai, 1858, pryd y symudodd i Rhyl, ar ol llafurio yma dan wahanol amgylchiadau am 18 mlynedd. Am ychydig fisoedd, ymddibynai yr eglwys ar gynorthwy gweinidogion a phregethwyr dyeithr; ac adfywiwyd yr achos yn fawr. Rhoddwyd galwad i Mr. Lewis Jones, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, i fod yn weinidog, a dechreuodd ar ei waith y Sabboth cyntaf yn Medi, 1858; ac urddwyd ef ar y 7fed o'r Tachwedd canlynol. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Jenkins, Brynmawr. Holwyd y gofyniadau gan Mr. S. Edwards, Machynlleth. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. C. Guion, Aberhonddu. Rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. R. W. Roberts, Clarach; a siars i'r eglwys gan Mr. J. Saunders, Aberystwyth. Pregethwyd hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri J. Thomas, Ellesmere, a W. Roberts, Penybontfawr. Rhif yr aelodau ar ddyfodiad Mr. Jones oedd 65, ac addawid iddo 52p. y flwyddyn o gyflog, i'w godi i 60p. pan y telid y ddyled. Yn nechreu 1860, torodd diwygiad grymus allan yn yr eglwys pan yr oedd Meistri D. M. Jenkins, (Penmaenmawr); R. Lumley, (Bwlchyffridd); J. Stephens, (Taibach)—myfyrwyr yn athrofa y Bala—yn galw heibio ar eu ffordd i gynal cyfarfod yn Bethel. Cymerodd rhywbeth dyeithr iawn le, ac enynodd y tân trwy yr eglwys. fel yr ychwanegwyd 24 at yr aelodau mewn ychydig fisoedd; ac y mae effeithiau yr ymweliad hwnw yn parhau ar yr eglwys hyd yn bresenol. Yn y flwyddyn hono, aeth yr eglwys o ddifrif yn nghylch talu y 140p. gweddill o'r ddyled, yr hyn a gwblhawvd trwy gydymroddiad pawb. Rhoddodd Mr. Joseph Evans 20p. 12s.; a Mr. L. Jones, y gweinidog, 12p. 9s. ; a Mr. David Evans, Machynlleth, yr hwn oedd yn aros yma ar y pryd, a roddodd y 5p. olaf ilwyr ddileu dyled yr hen gapel. Erbyn dechreu 1861, yr oedd rhif yr aelodau yn 108; ac nid cynt nag y talwyd dyled yr hen gapel y meddyliwyd am godi capel newydd. Yr oedd rhai yn ofnus, ond dywedodd Mr. Joseph Evans os cytunai yr eglwys i gacl capel newydd teilwng, y deuai ef a 100p. ato; a gwnaeth Mr. Jones, y gweinidog, addewid am yr un faint, a rhoddodd hyny ar unwaith galon yn y bobl i weithio. Tynwyd cynllun o hono gan Mr. Thomas, Glandwr. Cymerwyd ef i'w adeiladu gan Mr. J. Rees, Temperance, gynt; a chostiodd y capel a'r festri, a phob peth o'i gylch, 1015p. 13s. 7c. Mae ynddo eisteddleoedd i 450. Dechreuwyd arno yn haf 1863. Ar ei sylfaeniad, traddodwyd araeth ragorol