Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/380

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ragoriaeth y drefn gynnulleidfaol, gan Mr. T. Minshull, diacon hynaf y capel Saesonaeg. Tra y bu y capel ar lawr, addolid yn yr Ysgoldy Brytanaidd; ond gan y byddai ar y Saeson eisiau hono bob prydnhawn Sabboth, cedwid yr ysgol yn ystorfa flawd Mr. Joseph Evans, yr hon bob nos Sadwrn a glirid allan i'r perwyl. Agorwyd y capel newydd Mehefin 14eg, 1863, ac ar yr achlysur pregethodd Meistri W. Ambrose, Porthmadog; S. Edwards, Machynlleth; T. Thomas, Glandwr; a J. Jones, Smethcote. Yr un haf ag yr agorwyd y capel, ymadawodd Mr. Lewis Jones, oblegid sefyllfa ei iechyd yn benaf, wedi bod yma am bum' mlynedd; ac y mae yn awr yn Abergwaun, sir Benfro. Daeth Mr. Evans yn mlaen a'i gan' punt, ac er i Mr. Jones ymadael, daeth yntau a 60p., a thrwy gydymdrech yr eglwys, yr oedd y ddyled erbyn dechreu 1864 wedi ei thynu i lawr i 670p., ac er hyny nid yw yr eglwys wedi gorphwyso, fel erbyn nos Sabboth, Chwefror 12ed, 1871, yr oedd y ddyled wedi ei dwyn i lawr i 140p., a phenderfynwyd dileu y cwbl erbyn dechreu 1872. Erbyn y Sabboth cymundeb cyntaf yn y capel newydd, gwnaeth Mrs. Joseph Evans anrheg o lestri cymundeb hardd at wasanaeth yr eglwys. Yn haf 1868, rhoddwyd galwad i Mr. Joseph Farr, yr hwn oedd newydd ddychwelyd o Awstralia, lle y buasai yn weinidog am flynyddau; a dechreuodd ei weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf yn Medi y flwyddyn hono. Bu yma yn barchus iawn am 18 mis; ac fel arwydd o barch yr eglwys iddo, anrhegwyd ef ar ei ymadawiad a swm o arian, yn nghyda Bibl hardd, ac enwau y pedwar diacon ynddo. Ymadawodd i Mount Stuart, Caerdydd ddechreu Mawrth, 1870; ac er hyny y mae yr eglwys yn amddifad o weinidog. Mae yr eglwys yn awr yn 130 o nifer, a golwg llewyrchus arni—cynnulleidfa dda—ac ysgol Sabbothol nodedig o lafurus. Mae yr eglwys yma yn teimlo ei bod yn ddyledus i luaws o weinidogion am eu caredigrwydd iddi o'r dechreuad; ond nid yn fwy i neb nag i Mr. S. Roberts, Llanbrynmair, a'r diweddar Mr. D. Jones, Llansantffraid, am y cynorthwy effeithiol a roddasant iddi yn ei gwendid dechreuol. Coffeir yn barchus am enw Edward Williams, un o'r aelodau a fu farw yn 1847; ac er nad ydoedd ond dyn cyffredin ei amgylchiadau yr oedd yn uchel ei gyrhaeddiadau, ac yn meddu dawn gweddi nodedig. Gadawodd ar ei ol deulu lluosog, ond gofalodd "tad yr amddifad, a barnwr y gweddwon" am danynt oll.

Codwyd yma ddau bregethwr.

David Williams. Genedigol ydoedd o Lanfihangel. Bu yn egwyddorwas yn Llanfyllin. Daeth i'r dref hon yn 1858, a dechreuodd bregethu yn adeg y diwygiad, yn 1860. Bwriadodd unwaith fyned i'r Athrofa, ond o herwydd rhyw resymau rhoddodd y bwriad hwnw i fyny, ac ail ymaflodd yn ei alwedigaeth. Llwyddodd yn fawr yn y byd, heb golli ei gymeriad fel crefyddwr; ennillodd ei ddidwylledd a'i foneddigeiddrwydd iddo air da gan bawb. Byddai yn pregethu agos bob Sabboth, ond fynychaf gyda'r Šaeson. Yn 1868 ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, ac wedi hir gystudd, yr hwn a ddyoddefodd yn dawel, bu farw Chwefror 2il, 1870, yn 30 oed, a chladdwyd ef yn y Cemetery lle yr oedd ei unig blentyn wedi ei gladdu ychydig fisoedd cyn hyny; a'r lle yn mhen ychydig fisoedd y dilynwyd ef gan ei anwyl briod, yn 26 oed, fel y mae teulu y Waterloo House yn cydwywo!

Richard O. Evans. Dechreuodd bregethu yn 1861. Bu yn Athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Glynhafren, ac y mae yn awr yn Sammah.